Neidio i'r prif gynnwy

Nyrs yn sefydlu grŵp cymorth stoma dan arweiniad gwirfoddolwyr yn Sir y Fflint

01/11/2024

Mae grŵp cymorth stoma newydd o’r enw Three Bags Full wedi’i lansio’n ddiweddar yn yr Wyddgrug ac mae’n gwahodd eraill i ymuno.

Sefydlodd Tom Russell, Nyrs Stoma yn Ysbyty Maelor Wrecsam, y grŵp wrth iddo weld drosto’i hun y profiadau yr oedd ei gleifion yn eu cael, a meddwl nad oedd angen iddyn nhw wynebu’r rhain ar eu pen eu hunain.

Mae’r grŵp, sy’n cael ei arwain gan y gwirfoddolwyr, yn agored i unrhyw un sydd â stoma neu sydd ar fin cael unrhyw fath o lawdriniaeth stoma.

“Roedd galw mawr gan gleifion sydd yn byw yn yr ardal am grŵp fel hwn oherwydd cyn sefydlu’r grŵp yma, yng Nghroesoswallt roedd y grŵp stoma agosaf,” meddai Tom.

“Mae’r cyfarfod yn cynnig cefnogaeth barhaus i gleifion stoma gan gleifion stoma eraill. Rydym wedi cael ein cyfarfod cyntaf a daeth tua 25 o bobl ynghyd, roedd y trafodaethau’n eang gyda’r pynciau yn amrywio o rai yn ymwneud â stoma a llawer mwy.

“Rydym yn bwriadu cael sgyrsiau gan ddeietegwyr, ffisiotherapyddion ac eraill i helpu pawb sy’n mynychu. Mae croeso i unrhyw un sydd â stoma neu a fydd yn cael llawdriniaeth ar gyfer stoma fynychu.”

Mae’r grŵp yn cyfarfod ar ail nos Fercher y mis yng Nghlwb Rygbi’r Wyddgrug am 7pm.