Neidio i'r prif gynnwy

'Maent yn barod iawn eu cymorth, yn hwyliog ac yn ofalgar' - y tîm sy'n lleihau nifer y cleifion sy'n cael eu derbyn i'r ysbyty ac amseroedd aros yn yr Adran Achosion Brys

05.11.2024

Gallai symud Uned Ddydd Feddygol Ysbyty Glan Clwyd (MDU) i ward fwy leihau ymhellach y derbyniadau i’r ysbyty ac amseroedd aros Adrannau Achosion Brys, yn ôl arweinydd clinigol.

Symudodd yr MDU yn ddiweddar i Ward 19, sef y Lolfa Ryddhau gynt, felly y gellid gweld mwy o gleifion y bydd arnynt angen gweithdrefnau arferol megis trwythiadau haearn, draenio hylif a thriniaethau awto-imiwn.

Mae rheolwr yr uned, Rebecca Lloyd-Lewis, yn awyddus i ehangu'r gwasanaeth, sy'n gweithredu o ddydd Llun i ddydd Gwener, er mwyn helpu hyd yn oed rhagor o gleifion.

Mae Rebecca, a ddechreuodd weithio fel cynorthwyydd cymorth gofal iechyd cyn dod yn nyrs gymwysedig yn 2010,  yn rhedeg yr MDU ers 2021. Mae’n trin cleifion nad oes angen gwely dros nos arnynt ond sydd arnynt angen triniaeth feddygol.

Darllenwch fwy: Gwasanaeth cemotherapi arloesol newydd yn lleihau amseroedd aros ac yn symleiddio apwyntiadau ar gyfer triniaeth - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

“Yn hanesyddol byddai’r cleifion hyn wedi treulio nifer o ddyddiau yma,” meddai. “Nawr byddant yn cael yr ymchwiliadau, trallwysiadau gwaed, ac ati a byddant yn dychwelyd adref. Ein nod yw atal pobl rhag cael eu derbyn i'r ysbyty neu gael eu gweld yn yr Adran Achosion Brys yn ddiangen.

“Mae’n gysyniad mor wych ac mae angen i ni sicrhau bod pobl yn gwybod bod y cyfleuster ar gael. Os bydd claf ag anemia, er enghraifft, yn gweld ei Feddyg Teulu, bydd angen ei gyfeirio at yr ysbyty i ragnodi'r gwasanaeth hwn. Mae'n bwysig sicrhau y gwnaiff pobl ei ddefnyddio a sicrhau y caiff pobl eu gweld yma.”

Mae'n amlwg bod yr amrywiad yn y cyflyrau sy'n cael eu trin yn yr uned yn apelio'n fawr at Rebecca, sy'n cael cymorth gan nyrs staff ond sy'n gobeithio ehangu ei thîm ar ôl penodi cynorthwyydd cymorth gofal iechyd penodedig yn y dyfodol agos.

Ychwanegodd: “Un o'r pethau mwyaf boddhaus am y rôl hon yw'r adborth gan gleifion, mae wedi bod yn anhygoel. Rwyf wedi cyflawni triniaethau nad oeddwn i erioed wedi'u cyflawni'n flaenorol yma. Mae'n hynod o ddiddorol.”

Darllenwch fwy: Adran Achosion Brys Ysbyty Gwynedd yn cael eu graddio fel y lle gorau i hyfforddi yng Nghymru gan feddygon iau - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Bydd yr adran yn gweld tua 35 o bobl bob wythnos, a thrinnir cyflyrau megis anemia yn sgil diffyg haearn, hemocromatosis (cyflwr genetig lle mae gormod o haearn yn y gwaed), trwythiadau i'r rhai â chyflyrau awto-imiwn a draeniau asgitig i'r rhai sy'n cael croniadau o hylif oherwydd methiant cronig yr iau.

Un o'r cleifion sy’n ymweld â’r uned yn rheolaidd i gael draeniad asgitig yw Peter Lloyd, cyn-filwr 57 mlwydd oed sy’n byw ym Modelwyddan.

Roedd y baich yn sgil clefyd yr iau yn golygu bod yn rhaid iddo roi'r gorau i'w waith ac mae o dan ofal Ysbyty'r Frenhines Elizabeth ym Mirmingham. Ychwanegwyd ei enw at restr trawsblaniadau'r ysbyty naw mis yn ôl.

Bydd Peter yn ymweld â chanolbarth Lloegr unwaith bob chwe wythnos ond mae'n un o ymwelwyr rheolaidd Rebecca a’r tîm, a bydd yn mynd atynt bob 10 diwrnod i gael ei driniaeth. Fe wnaeth Peter ganmol yr uned.

“Bydd oddeutu 10-12 litr o hylif yn cael eu draenio bob tro y byddaf yn ymweld â'r adran ac rwy'n cael y driniaeth hon ers dwy flynedd,” datgelodd Peter. “Bydd pob ymweliad yn para rhwng dwy awr a hanner a thair awr. Mae'r staff yma yn wych. Maent yn barod iawn i gynorthwyo ac yn hwyliog - yn broffesiynol a gofalgar.

Darllenwch fwy: Nyrs yn sefydlu grŵp cymorth stoma dan arweiniad gwirfoddolwyr yn Sir y Fflint - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

“Treuliais 22 mlynedd yn y fyddin a gweithiais i elusen Blind Veterans UK am oddeutu wyth mlynedd. Cefais swyddi gwahanol ar ôl hynny ond bu'n rhaid i mi ymddeol oherwydd clefyd yr iau. Cychwynnodd fy mol chwyddo, gwaethygodd fy nghof ac roeddwn i'n drwsgwl.

“Yn fy marn i, mae angen mwy o staff yma, dylent ehangu'r adran. Mae'n wych.”

Mae Karen Scrimshaw, pennaeth nyrsio meddygaeth Ysbyty Glan Clwyd, yn un o gefnogwyr brwd yr uned. Mae'n credu y gall wneud cyfraniad mwy fyth at leddfu rhywfaint o'r pwysau a brofir yn yr ysbyty.

Dywedodd: “Mae'r gwaith y mae Rebecca a'i thîm yn ei wneud yn yr MDU yn sicr yn helpu i leihau rhai o'r problemau capasiti yn yr ysbyty. Drwy ymgymryd â'r triniaethau hyn yma, rydym yn lleihau traffig i wardiau, yn lleihau nifer yr ymweliadau diangen â'r Adran Achosion Brys ac yn rhoi gwasanaeth da i bobl.

“Bydd ehangu i'r ward newydd hon yn ein galluogi i helpu mwy o bobl a lleddfu mwy o bwysau yn yr ysbyty drwyddo draw. Rwy’n ymfalchïo’n fawr yn y gwaith y maent yn ei gyflawni.”

Dilynwch newyddion diweddaraf y Bwrdd Iechyd trwy gofrestru ar gyfer ein rhestr bostio Sign up (es-mail.co.uk)