25/11/2024
Mae’r tîm gofal iechyd sy’n gyfrifol am ficro-ddileu Hepatitis C yng Ngharchar y Berwyn, carchar mwyaf y DU, wedi ennill Gwobr Diwylliant Tîm GIG Cymru.
Cyflwynwyd y gwobrau yn seremoni Gwobrau GIG Cymru yng Nghaerdydd pan ddaeth y rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol o bob rhan o Gymru ynghyd.
Roedd y prosiect dileu yn fenter ar y cyd rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC), Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r elusen Hepatitis C Trust, a oedd yn cynnig prawf i 100% o garcharorion, cafodd 90% o ddynion brawf, a dechreuodd 90% o’r rhai a gafodd ddiagnosis o hepatitis C driniaeth.
Gelwir hyn yn ficro-ddileu, sy'n golygu bod gofynion penodol ar gyfer profi a thrin hepatitis C o fewn amgylchedd penodol, yn yr achos hwn CEM Berwyn, wedi'u cyrraedd.
Dywedodd Anya Hughes, Nyrs Feirysau a Gludir yn y Gwaed: “Mae wedi bod yn anrhydedd enfawr cymryd rhan yn y prosiect hwn. Bu’n rhaid inni lunio sawl llwybr gwahanol ar gyfer cleifion yr oedd angen eu profi a’u trin, gan nad oedd y llwybr safonol yn addas ar gyfer y grŵp hwn o gleifion.
“Chwalwyd y stigma yn llwyr a daethant yn hapus i ddod ataf i ofyn am brofion o flaen eu ffrindiau yn y carchar ac i annog eraill i gael eu profi hefyd.
“Carchar y Berwyn yw carchar mwyaf y DU ac felly mae gennym nifer fawr o newydd-ddyfodiaid sy’n cael eu sgrinio ond ni fyddant erioed wedi cael prawf o’r blaen o bosibl, a gallai fod ganddynt firws a gludir yn y gwaed heb wybod dim amdano. Felly, efallai bod dod i CEF Berwyn a chael eu profi a’u trin wedi achub eu bywydau ac mae wedi lleihau’r trosglwyddiad yn aruthrol.”
Roedd y tîm o fewn CEF Berwyn yn cynnwys nyrs firws a gludir yn y gwaed, fferyllwyr rhagnodi a chyfoedion Ymddiriedolaeth Hepatitis C, a chyd-garcharorion hefyd. Mae'r carchar wedi llwyddo i gyflawni a chynnal micro-ddileu dros y 14 mis diwethaf.
Enillodd Anya hefyd Gwobr Seren Newydd yng Ngwobrau Staff y Bwrdd Iechyd 2024 am yr effaith uniongyrchol y mae hi wedi’i chael drwy’r prosiect, nid yn unig ar ei chleifion ond o fewn ei maes gwaith ac ar ei chydweithwyr hefyd.
Yn dilyn y gwobrau, dywedodd Judith Paget Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd, Gofal Cymdeithasol a’r Blynyddoedd Cynnar a Phrif Weithredwr GIG Cymru: “Llongyfarchiadau i’r enillwyr ond hefyd i bawb sydd wedi cyrraedd rhestr fer y gwobrau. Mae Gwobrau GIG Cymru yn un o uchafbwyntiau fy mlwyddyn. Rwy’n falch iawn o weld holl amrywiaeth y prosiectau gwella ansawdd sydd ar y gweill ar draws GIG Cymru i drawsnewid ein gwasanaethau ar gyfer y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt. Gobeithio eich bod i gyd yn falch iawn o’r hyn rydych yn ei gyflawni yn y cyfnod heriol hwn.”
Mae Gwobrau GIG Cymru yn dathlu gwaith gwella ansawdd sydd wedi trawsnewid y profiad a’r canlyniadau i bobl yng Nghymru ac yn annog a dyrchafu’r staff iechyd a gofal dawnus sy’n gweithio gyda’i gilydd i wella gwasanaethau a gofal cleifion ledled Cymru.