05/08/2024
Mae grŵp o bobl ifanc wedi graddio o’u hinterniaeth 12 mis gan dderbyn eu tystysgrifau mewn seremonïau ar draws Gogledd Cymru gyda’u teuluoedd.
Mae’r interniaeth yn rhan o Brosiect SEARCH/Interniaethau â Chymorth i helpu oedolion a phobl ifanc sy’n gadael addysg ac sydd ag anableddau dysgu neu awtistiaeth i sicrhau cyflogaeth.
Yn genedlaethol, mae’r gyfradd ddiweithdra ar gyfer oedolion sydd ag anableddau dysgu a/neu sydd ag awtistiaeth tua 90 y cant; mae Prosiect SEARCH/Interniaethau â Chymorth yn cefnogi datblygiad sgiliau ac ymddygiadau sy’n cefnogi’r oedolion ifanc hyn i sicrhau cyflogaeth ystyrlon â thâl.
Dywedodd Dyfed Edwards, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Rwyf eisiau diolch i bawb sydd wedi cefnogi Prosiect SEARCH/Interniaethau â Chymorth o fewn y Bwrdd Iechyd, cynghorau lleol a phartneriaid eraill, yn ogystal â rhieni/gofalwyr ein graddedigion sydd wedi bod yn cefnogi’r oedolion ifanc hyn yn ystod eu hinterniaethau.
“Yn bwysicach oll, hoffwn ddiolch i’n graddedigion, maent wedi rhoi’r cyfle i ni weld y byd fel lle gwell, a’n helpu i ganolbwyntio ar gydraddoldeb, cyfleoedd cyfartal a thegwch.
“Ein Bwrdd Iechyd yw’r cyflogwr mwyaf yng Nghymru ac rwyf eisiau i ni adlewyrchu'r gymdeithas yr ydym yn ei gwasanaethu, felly nid sefydliad o 20,000 o aelodau o staff yr ydym, ond gweithlu amrywiol sydd â gwahanol sgiliau, ffyrdd o feddwl a phrofiadau byw sy'n hybu'r ffordd yr ydym yn gweithio. ”
Lansiwyd Prosiect SEARCH yn Sir y Fflint am y tro cyntaf eleni a chafodd ei gynnal ar y cyd gan Gyngor Sir y Fflint. Cynhaliwyd y seremonïau graddio yn eu swyddfeydd yn Nhŷ Dewi Sant yn Ewloe y mis hwn.
Cafodd Jordan brofiad mewn sawl adran o fewn y Bwrdd Iechyd dros y flwyddyn ddiwethaf, gan gynnwys yr adran weinyddol ym Meddygfa Laurels yn Fflint, lle sicrhaodd swydd banc.
Dywedodd Jordan: “Mae Prosiect SEARCH wedi gwneud cymaint i mi ers i mi ymuno. Mae wedi fy helpu i ddysgu sgiliau newydd mewn adrannau gwahanol ac mae wedi rhoi hwb gwirioneddol i fy hyder o ran cwrdd â phobl newydd. Byddwn yn bendant yn argymell Prosiect SEARCH i eraill sy’n chwilio am gyflogaeth, mae wedi newid fy mywyd.”
Cynhaliwyd seremoni graddio Cymuned Iechyd Integredig (IHC) Ardal y Gorllewin yng Ngholeg Llandrillo Menai, Llangefni, sef partner yn y prosiect Interniaethau â Chymorth, ac roedd un intern o’r enw Mair hefyd yn dathlu cael ei chyflogi fel Cynorthwyydd Gofal Iechyd Prentis a Rennir â Chymorth yn Ysbyty Gwynedd.
Dywedodd Mair: “Mae bod yn rhan o’r Rhaglen Interniaethau â Chymorth wedi bod yn wych oherwydd rydych yn ennill mwy o sgiliau gwaith megis cyfathrebu, cymryd rhan mewn gwaith tîm yn ogystal â magu hyder. Rydych yn dod ychydig yn fwy annibynnol drwy deithio ar eich pen eich hun ar drafnidiaeth gyhoeddus ac rydych yn dod i arfer â bod mewn gwaith a’r newidiadau a ddaw yn sgil hynny. Mae pawb fel teulu mawr yn cefnogi ei gilydd drwy uchafbwyntiau ac isafbwyntiau.
Cynhaliwyd seremoni raddio Cymuned Iechyd Integredig Ardal y Canol yng Ngholeg Llandrillo Menai, Llandrillo-yn-Rhos. R oedd rhieni’r intern Josh yn bresennol ac roeddent yn canmol y prosiect ar ôl i’w mab gael ei gyflogi fel porthor banc yn Ysbyty Glan Clwyd.
Dywedodd ei rieni: “Rydym wedi gweld newid enfawr ynddo ers iddo ddechrau gweithio gyda’r porthorion. Mae wedi newid o fod yn hynod ddistaw a chyndyn i ymuno mewn sgyrsiau gartref i fod yn hynod siaradus a hyderus. Mae bob amser yn hapus i siarad am ei ddiwrnod, rhywbeth nad oedd byth yn ei wneud pan yr oedd yn yr ysgol.
“O ran ei hyder, mae’r newid yr ydym wedi’i weld yn rhyfeddol. Mae’n hyfryd cael clywed ei fod yn ymgysylltu mewn sgyrsiau gyda staff a chleifion a’i fod hefyd yn dechrau sgyrsiau, unwaith eto, rhywbeth y mae bob amser wedi cael trafferth ag ef.”
Yng Nghymru, bydd llai na 5% o oedolion sydd ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth mewn cyflogaeth â thâl, tra bod gan y Bwrdd Iechyd gyfradd llwyddiant o 70% hyd yma gyda swyddi a sicrhawyd yn fewnol ac yn allanol.
Dywedodd Tracey Amos, Arweinydd Gweithredol Prosiect SEARCH/Interniaid â Chymorth ar gyfer y Bwrdd Iechyd: “Rwy’n falch iawn bod y Bwrdd Iechyd wedi cael blwyddyn anhygoel arall yn cefnogi ac yn dysgu gan ein hinterniaid.
“Mae’n hynod bwysig ein bod yn gweithio’n agos gyda phobl ifanc a allai fod angen y cymorth ychwanegol hwnnw i ymuno â’n gweithlu. Roedd yn hyfryd cael cwrdd â’n hinterniaid a’u teuluoedd yn ein seremonïau graddio; gallwn weld pa mor falch yw pawb ohonynt.
“Hoffwn ddiolch i’n holl bartneriaid sy’n cefnogi Prosiect SEARCH/Interniaethau â Chymorth ar draws Gogledd Cymru, ni fyddai’r rhaglenni’n gymaint o lwyddiant hebddynt.”