29 Gorffennaf, 2024
Mae cynlluniau ar gyfer hwb iechyd a lles newydd gwerth £30 miliwn ym Mangor wedi cael eu cymeradwyo gan y Bwrdd Iechyd a Chyngor Gwynedd.
Bwriedir i'r hwb arfaethedig gael ei leoli yng Nghanolfan Menai ar y stryd fawr ym Mangor.
Mae'r hwb yn rhan o gynlluniau'r Bwrdd Iechyd i wella mynediad at wasanaethau iechyd lleol yn yr ardal ac mae'n rhan o gynlluniau'r Cyngor i helpu i adfywio canol y ddinas.
Dywedodd Dyfed Edwards, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: "Mae cam cyntaf yr achos busnes ar gyfer ein Hwb Iechyd a Lles wedi cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru i gael ei gymeradwyo er mwyn symud i'r cam dylunio manwl nesaf.
"Rydym wedi dechrau trafodaethau cychwynnol gyda Phractisau Meddygon Teulu Bronderw a Bodnant ynghylch ein cynlluniau, sy'n dal i fod ar gam cynnar o'r broses ddatblygu, ac a fydd yn amodol ar gymeradwyo achos busnes ffurfiol a gyflwynwyd i'r Bwrdd ac yna, i Lywodraeth Cymru.
"Mae hyn yn ddatblygiad hynod bwysig i ddinas Bangor a bydd yn arwain at ystod o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn y gymuned, a bydd gwasanaethau'r Cyngor a gwasanaethau gwirfoddol i gyd mewn un lle er mwyn gwella mynediad ar gyfer ein cymuned.
"Rydym ni bellach yn edrych ymlaen at barhau i weithio mewn partneriaeth â Chyngor Gwynedd wrth i ni symud at y cam nesaf."
Mae'r cynllun uchelgeisiol hwn yn rhan allweddol o gynigion cyffredinol Partneriaeth Adfywio Bangor ar gyfer y ddinas o dan arweinyddiaeth Cyngor Gwynedd. Y gobaith yw y bydd y cynnydd yn nifer yr ymwelwyr yn sgil yr Hwb Iechyd a Lles arfaethedig yn gwneud cyfraniad mawr at adfywio canol y ddinas. Mae lleoliad yr hwb newydd yn golygu y bydd yn hygyrch iawn i'r boblogaeth leol o ran cludiant cyhoeddus o bob rhan o'r ddinas.
Dywedodd y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, Arweinydd Cyngor Gwynedd: "Rydw i'n hynod falch bod ein cynlluniau ar gyfer y Ganolfan Iechyd yng nghanol Bangor wedi cymryd cam pwysig arall ymlaen. Mae Cyngor Gwynedd a'n partneriaid yn gweithio ar gynlluniau uchelgeisiol i adfywio Canol Dinas Bangor ac mae'r Ganolfan Iechyd yn un elfen bwysig o ran y cynlluniau hyn.
"Nid yn unig y bydd y ganolfan yn gwella darpariaethau iechyd ar gyfer y gymuned leol, ond bydd hefyd yn rhoi hwb mawr i ganol y ddinas, gan ddenu mwy o bobl a chan wella masnach yng nghanol y ddinas. Yn debyg i ddinasoedd a threfi eraill ar draws y wlad, mae Stryd Fawr Bangor wedi wynebu heriau sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf oherwydd cyfuniad o newidiadau o ran arferion siopa pobl, y dirwasgiad a phandemig Covid. Ond trwy fuddsoddiadau fel hwn, a thrwy greu swyddi â chyflog hael a gwasanaethau hanfodol yng nghanol y ddinas, rydym ni'n hyderus y gallwn helpu i greu dyfodol mwy disglair ar gyfer Bangor."
Ychwanegodd y Cynghorydd John Wynn Jones, Cadeirydd Partneriaeth Bangor: "Mae hwn yn gynllun pwysig i Ganol Dinas Bangor, ac mae Partneriaeth Bangor yn ei gefnogi'n llwyr. Mae hefyd yn dangos gwerth i sefydliadau fabwysiadu dull cydweithredol, ac rydym ni'n edrych ymlaen at gynnig cymorth pellach yn ystod cam nesaf y gwaith."
Ar ran Practisau Meddygon Teulu Bronderw a Bodnant, dywedodd Dr Nia Hughes: "Rydym ni'n edrych ymlaen at y cyfleoedd y bydd y datblygiad hwn yn eu darparu ar gyfer cynaliadwyedd gofal sylfaenol yn yr ardal leol, ac rydym ni'n gobeithio y bydd yn ein galluogi i ehangu'r gwasanaethau gofal iechyd sydd ar gael yng nghymuned Bangor."