Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth cemotherapi arloesol newydd yn lleihau amseroedd aros ac yn symleiddio apwyntiadau ar gyfer triniaeth

21/10/2024

Mae cleifion canser yn Ysbyty Maelor Wrecsam yn elwa o wasanaeth newydd sydd wedi lleihau eu hamser aros am driniaeth yn ystod eu hymweliad â'r ysbyty ac wedi gwella eu profiad o drefnu apwyntiadau.

Mae’r Uned Seren Wib wedi lansio gwasanaeth ‘cadair cemotherapi cyflym’ newydd sy’n galluogi nyrs sydd wedi’i hyfforddi’n arbennig i roi triniaeth i hyd at 10 o gleifion y dydd, mewn ardal benodedig yn yr uned.

Mae'r gwasanaeth yn cynnig cemotherapi trwy'r geg ac yn isgroenol i gleifion yn dilyn cylch un yn ogystal â therapi hormonau, a bisffosffonadau i atal toriadau esgyrn.

Mae'r gwasanaeth newydd hefyd yn rhyddhau lle i gleifion eraill sydd yn derbyn triniaeth fwy cymhleth sydd yn cymryd mwy o amser.

Lansiodd arweinydd y prosiect, Julie Jones, Nyrs Therapi Gwrth-ganser Systemig (SACT), y gwasanaeth ym mis Medi ac rydym wedi derbyn adborth ardderchog gan ein cleifion a’n staff hyd yn hyn.

“Y nod a’r pwrpas oedd symleiddio’r gofal a rhoi profiad mwy cadarnhaol i gleifion” meddai Julie. “Gwelsom fod cleifion a oedd yn dod i’r ysbyty ar gyfer eu hapwyntiad ar gyfer y math hwn o driniaeth yn aros am hyd at awr, ac roedd hyn yn arwain at brofiad negyddol, felly fe wnaethom feddwl pa welliannau fyddai’n bosib eu gwneud ac roeddem yn ymwybodol o’r canlyniadau cadarnhaol a allai ddod o gael cadair gyflym.

“Erbyn hyn rydym ni’n ffonio’r claf ar fore eu hapwyntiad ac yn cynnal rhag-asesiad dros y ffôn, yna rydyn ni’n awdurdodi eu triniaeth ar unwaith felly pan maen nhw’n dod i mewn ar gyfer eu hapwyntiad, mae eu cyffuriau yn barod ar eu cyfer. Maent yn dod i mewn ac yn eistedd yn syth yn y Gadair Cemotherapi Cyflym a gall y driniaeth orffen o fewn 15 munud.

“Mae’r gadair arbennig yma’n sicrhau bod gennym gapasiti ar gyfer y cleifion hyn ac mae’n rhyddhau lle ar gyfer cleifion eraill â phroblemau mwy cymhleth.”

Bydd canlyniadau'r gwasanaeth newydd yn cael eu cyflwyno i Ysbyty Gwynedd ac Ysbyty Glan Clwyd i adolygu'r broses o gyflwyno'r gwasanaeth ymhellach ar draws y Bwrdd Iechyd.