Neidio i'r prif gynnwy

19/04/2024

Mae tîm o bobl ifanc ac ymarferwyr iechyd plant wedi bod yn cydweithio i greu gofod awyr agored newydd yng Nghanolfan Iechyd Plant Wrecsam.

Dechreuodd y prosiect pan roedd unigolyn ifanc, a oedd yn cael mynediad at y Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAMHS) yn y ganolfan yn Wrecsam, eisiau edrych ar yr amgylchedd CAMHS cyfan, o’r ystafelloedd clinig i'r wefan.

Gofynnwyd i’r unigolyn ifanc, sef aelod o Senedd yr Ifanc – Senedd Ieuenctid Wrecsam, helpu i wella’r gwasanaeth a chreu arolwg a fyddai’n cyrraedd 950 o bobl rhwng 10 – 25 oed sy’n byw yn Wrecsam. Roedd tua hanner yr ymatebwyr wedi mynychu'r Ganolfan Iechyd Plant ar ryw adeg yn eu bywydau, ac roedd yr adborth yn cynnwys syniadau ar gyfer gwelliannau i'r ystafelloedd clinig, gwybodaeth ac adnoddau i blant ac ardal awyr agored iddynt ymweld â hi.

Dywedodd Marilyn Wells, Pennaeth Nyrsio CAMHS: “Mae chwarae eisoes yn rhan bwysig o asesu yn y Ganolfan Iechyd Plant. Mae gennym hefyd rôl wrth sicrhau bod gan blant amser i chwarae ar y safle fel rhan o’u hadferiad. Mae ein cleifion yn blant yn gyntaf, ac mae gan bob un ohonynt yr hawl i chwarae. Mae’n bwysig darparu amryw o amgylcheddau i sicrhau ein bod yn darparu’r cyfle gorau i chwarae gyda’n plant sydd, yn ei dro, yn helpu gydag ymgysylltu.

Bu CAMHS a Senedd yr Ifanc yn cydweithio i sicrhau bod y prosiect yn cael ei arwain gan ieuenctid a bod chwarae'n cael ei gadw mewn cof drwy'r gwelliannau amgylcheddol. Bu amryw o bartneriaid, megis Tîm Cymorth Chwarae ac Ieuenctid y cyngor, Coleg Cambria a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gweithio gyda gweithwyr proffesiynol iechyd plant a’r tîm ystadau i gyd-gynhyrchu gofod awyr agored sy’n cefnogi amryw o fathau chwarae ac sy’n cynnig lle i archwilio ac ymlacio.

Dywedodd Jane Berry, Arweinydd Profiad Cleifion CAMHS: “Mae cyd-gynhyrchu ac ymgysylltu yn cymryd amser er mwyn sicrhau bod safbwyntiau ac awgrymiadau plant yn cael eu clywed fel rhan o brosiect gwella’r ardd chwarae.

 “Roedd ymweld â sesiynau gwaith chwarae gyda thîm chwarae’r cyngor yn hynod ddefnyddiol ac ysbrydoledig. Roedd gweld plant yn arwain eu chwarae eu hunain yn ein hatgoffa o ba mor bwysig yw chwarae i blant."

Dywedodd y Cynghorydd Rob Walsh, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Plant: “Mae hon yn enghraifft wych o bobl ifanc yn cael eu clywed a phartneriaid yn ymateb mewn ffordd sydd wedi arwain at amgylchedd gwell ar gyfer y plant a’r bobl ifanc hynny sy’n defnyddio’r gwasanaeth pwysig hwn.

“Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o’r prosiect hwn a fydd yn helpu i gefnogi llawer o bobl ifanc yma yn Wrecsam.”

Mae aelodau tîm CAMHS eu hunain wedi bod yn gweithio ac yn torchi eu llewys, ynghyd â phobl ifanc, staff a myfyrwyr Coleg Cambria a thîm ystadau’r ysbyty i droi’r gofod ger y ganolfan yn ardal sy’n ystyriol o blant.

Mae’r ardd yn cynnwys gofod ar gyfer plant yn y blynyddoedd cynnar, gofodau tawel, llochesi a blwch chwarae gyda darnau rhydd i gefnogi chwarae a chreadigrwydd.