10/10/2024
Mae’r fferyllfa yn yr Orsedd wedi symud i adeilad llawer mwy a mwy modern, gan gynnig gwasanaeth rhagnodi annibynnol newydd, a hynny am y tro cyntaf.
Cymerodd Shahbaz Mirza ac Abbas Fazal, fferyllwyr y fferyllfa’r awenau'r llynedd, ac mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cynnig cymorth ymgynghorol wrth iddynt fwrw ymlaen i adeilad mwy, sydd bellach wedi agor ychydig funudau i ffwrdd ar droed.
Mae Shahbaz ac Abbas wedi dod yn rhagnodwyr annibynnol, ac maen nhw’n cynnig gwasanaethau estynedig sy'n eu galluogi i reoli ystod o fân afiechydon, megis heintiau, gan gynnwys rhagnodi meddyginiaeth fel gwrthfiotigau, heb fod angen mynd at y Meddyg Teulu.
Dywedodd Shabaz: “Pan ddaeth y siop fwy ar y farchnad i’w rhentu roeddem yn meddwl ei bod yn llawer gwell i’r gymuned o’i gymharu â’r adeilad bach yr oeddem ynddo o’r blaen. Mae pawb wedi bod mor gyfeillgar, cymwynasgar a chroesawus, felly roeddem yn teimlo bod y gymuned yn haeddu rhywbeth yn ôl.
“Felly, fe wnaethom benderfynu creu fferyllfa fwy gyda dwy ystafell ymgynghori. Rydym yn awyddus iawn i helpu pobl yr Orsedd, drwy ddarparu gwasanaethau gofal iechyd hanfodol heb fod angen gweld y Meddyg Teulu. Byddai hyn yn helpu anghenion gofal iechyd cleifion y pentref i gyd a’r pentrefi cyfagos. Mae gan ein siop newydd leoedd parcio yn y tu blaen ac yn y cefn, ac mae’n hawdd i bobl sydd ag anghenion mynediad fel y rhai mewn cadair olwyn neu sydd â phroblemau symudedd.”
Yn ogystal â’r llwybr hyfforddi pum mlynedd y mae pob fferyllydd yn ei gwblhau i gymhwyso, mae Fferyllwyr Rhagnodi Annibynnol sy’n darparu’r gwasanaeth hwn yng Ngogledd Cymru yn dilyn cwrs rhagnodi dwys ynghyd â chyrsiau ychwanegol, megis rheoli mân salwch.
Mae dwy ystafell ymgynghori fawr y fferyllfa’n cynnig man preifat i gleifion dderbyn asesiadau wyneb yn wyneb am ddim. Gellir cynnig meddyginiaeth ar bresgripsiwn i gleifion i drin mân afiechydon amrywiol, gan gynnwys problemau gyda'r glust, y trwyn a'r gwddf, cyflyrau'r croen a heintiau wrinol.
Dywedodd Eli O’Keeffe, o Dîm Fferylliaeth Gymunedol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC); “Mae’n amser cyffrous iawn i’r gymuned yn yr Orsedd gan fod y fferyllfa wedi symud i safle mwy ac yn gallu cynnig y gwasanaethau ychwanegol hyn. Bydd pobl yn gallu cael cyngor a thriniaeth gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol profiadol sydd wedi’i hyfforddi’n llawn dafliad carreg o’u cartrefi, yn ogystal â chael mynediad at wasanaethau eraill fel brechiadau’r ffliw ac atal cenhedlu brys.
“Rydym wedi ymrwymo i gefnogi fferyllfeydd cymunedol i gynnig ystod ehangach o wasanaethau i fodloni anghenion cleifion, a bydd symud fferyllfa’r Orsedd i safle newydd yn rhoi hwb gwirioneddol yn yr ardal hon.”