Neidio i'r prif gynnwy

Ennill dwy wobr yng Ngwobrau Nyrs y Flwyddyn Cymru

19/12/2024

Mae dau aelod o staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr sy’n gwneud gwaith arloesol wedi ennill gwobr yn eu categorïau yng Ngwobrau Nyrs y Flwyddyn Coleg Brenhinol y Nyrsys (RCN) Cymru eleni.

Enillodd Joanne Davies, Arweinydd Gwasanaeth Codymau ac Iechyd yr Esgyrn y Wobr am Nyrsio Cymunedol a Gofal Sylfaenol. Mae Joanne wedi cyflwyno dulliau trawsnewidiol yn y gwasanaeth codymau gan wneud y mwyaf o gyfleoedd i ofal sylfaenol cyfan gael y wybodaeth, yr adnoddau a’r hyder i helpu i wreiddio’r dull ‘Gofal iawn, y lle iawn, y tro cyntaf’ .

Mae Joanne yn eiriolwr brwd dros sicrhau bod codymau yn fusnes i bawb. Mae wedi cyflwyno bwndel codymau sy’n nodi arfer gorau i helpu pobl i fyw’n annibynnol yn fwy diogel, yn ogystal ag a’r rhai mewn lleoliadau cartrefi gofal.

Dywedodd Jo: “Mae’n fraint enfawr cael gweithio yn y gwasanaeth codymau. Y prif ffactor sy'n ein hysgogi yw chwilio’n barhaus am ffyrdd o wella dulliau o fyw’n annibynnol yn fwy diogel. Mae'r llwyddiant yn dod o ganlyniad i ymdrechion ar y cyd gyda gwasanaethau codymau ledled Gogledd Cymru.

“Diolch yn arbennig i’r RCN sydd wedi hyrwyddo ‘Nyrs y Flwyddyn’ gan amlygu’r ystod eang o waith arloesol ar hyd a lled Cymru.”

Yn 2018, ehangwyd y gwasanaeth codymau ar draws Wrecsam a Sir y Fflint ac yn 2021, cafodd Joanne y weledigaeth i wella’r cyfathrebu a thaith y claf drwy gynnal hyfforddiant gofal sylfaenol er mwyn cynnig asesiad cyfannol.

Mae Jo hefyd wedi datblygu dangosfwrdd cofrestr codymau sy'n galluogi timau amlbroffesiynol i weld beth sydd wedi'i gynnig i'r claf. Mae'r gofrestr yn lleihau dyblygu ac yn helpu atal pobl rhag bod ar restrau aros hir.

Yn 2022, roedd effaith gwaith cydweithredol Jo i’w weld yng Ngogledd Cymru gan arwain at 51% yn llai o ymweliadau ag adrannau brys, a 62% yn llai o deithiau mewn ambiwlans.

Darllenwch ragor am Atal Codymau yma.

Enillodd Katie Moore, y Wobr Nyrs Gofrestredig - Plant , am ei gwaith ymroddedig ac ysbrydoledig fel nyrs plant ac ymwelydd iechyd.

Ymunodd Katie â phrosiect peilot tîm CAMHS y Blynyddoedd Cynnar i ddatblygu'r gwaith integreiddio rhwng CAMHS y Blynyddoedd Cynnar ac Ymwelwyr Iechyd. Y nod oedd gwella'r ddarpariaeth o gymorth iechyd meddwl blynyddoedd cynnar a pherthynas rhieni-babanod yn Ardal y Dwyrain. Erbyn hyn, mae’r rôl yn un sefydlog ac yn rhan hanfodol o’r ddarpariaeth Blynyddoedd Cynnar.

Dywedodd Katie: “Mae’n fraint ac yn anrhydedd derbyn gwobr Nyrs Gofrestredig - Plant y Flwyddyn Cymru. Mae'r wobr hon i’r timau anhygoel dw i wedi cael y fraint o weithio gyda nhw dros y 24 mlynedd diwethaf, yn ogystal ag i mi.

“Dydy Nyrsys ac Ymwelwyr Iechyd ddim yn gweithio ar eu pen eu hunain. Mae'r rolau hyn yn ffynnu ar gydweithio, tosturi a’r ymrwymiad rydym ni'n ei rhannu i wella bywydau. Rydyn ni'n gweld bod gan bob rhyngweithiad bwrpas ac ystyr. Mae bod yn Ymwelydd Iechyd gyda thîm CAMHS y Blynyddoedd Cynnar yn golygu fy mod i'n gallu gweithio ochr yn ochr â'm cydweithwyr, i gefnogi plant ifanc a'u teuluoedd ar y cam mwyaf hanfodol yn eu bywyd.

“Mae adeiladu'r sylfaen ar gyfer iechyd corfforol, emosiynol a meddyliol yn digwydd yn ystod plentyndod cynnar. Mae gan ein gwasanaeth genhadaeth gyffredin i flaenoriaethu cymorth cynnar ac mae'r ymdrech ar y cyd hon yn fy ysbrydoli i bob dydd. Mae cael fy nghydnabod gan Sarah Jones, Rheolwr Gwasanaeth ar gyfer Ymwelwyr Iechyd, wedi dilysu fy ngwaith caled ac yn cadarnhau'r effaith sylweddol y mae timau CAMHS y Blynyddoedd Cynnar ac Ymwelwyr Iechyd yn ei chael ar y gymuned rydym ni'n ei chefnogi."