Rydym yn falch iawn o rannu enillwyr Gwobrau Cyrhaeddiad BIPBC 2024.
Cynhaliwyd y noson o ddathlu, wedi’i hariannu’n gyfan gwbl gan noddwyr a gwerthiant tocynnau, ar nos Wener 27 Medi yn Venue Cymru lle’r oedd 400 o aelodau staff, gwirfoddolwyr a noddwyr yn bresennol.
Cewch fwy o fanylion am enillwyr Gwobrau Cyrhaeddiad 2024 isod.
Gwobr y Filltir Ychwanegol i bencampwr Clefyd Parkinson yn Ysbyty Glan Clwyd.
Mae ymroddiad Gwyddonydd Gofal Iechyd Clinigol i ofalu am bobl sy’n byw gyda Chlefyd Parkinson wedi’i gydnabod yng ngwobrau cyrhaeddiad blynyddol y Bwrdd Iechyd.
Llongyfarchiadau i’r Athro Peter Hobson, a enillodd Wobr y Filltir Ychwanegol am ei gyfraniad sylweddol i wella gofal cleifion sy’n byw gyda Chlefyd Parkinson.
Dechreuodd Peter ei yrfa yn Ysbyty Glan Clwyd fel swyddog ymchwil ar ddiwedd y 1990au. Ers hynny, mae wedi dod yn brif wyddonydd yn y maes gofal iechyd ac Athro ar gyfer gwasanaethau gofal iechyd clinigol, a hynny o ganlyniad i'w waith caled a'i ymroddiad i ofal cleifion. Sefydlodd Peter y gofrestr ar gyfer cleifion sy’n byw â'r clefyd yng Ngogledd Cymru.
Trwy gydol ei yrfa mae wedi chwarae rhan flaenllaw wrth gynnal asesiadau gwybyddol i gleifion ac arwain gweithwyr dan hyfforddiant mewn ystadegau. Yn ddiweddar bu’n arwain gwaith gyda chydweithwyr yn y gwasanaethau arennol, gan ddangos manteision asesiadau cynhwysfawr i gleifion sy’n cael eu hystyried ar gyfer dialysis.
Disgrifiwyd Peter fel “y piler ar gyfer gwasanaethau Clefyd Parkinson” gan ei gydweithwyr, a chafodd ei ganmol am aberthu ei ddiddordebau academaidd er mwyn bodloni anghenion clinigol. Mae ei graffter clinigol rhagorol, ei wên gynnes, ei hiwmor amserol a'i bersonoliaeth hoffus wedi denu canmoliaeth ddi-ben-draw gan gleifion a gofalwyr.
Dywedodd yr Athro Peter Hobson: “Nid yw’r wobr hon i mi’n unig, mae’r wobr i’r tîm cyfan. Rwy’n diolch iddyn nhw’n fwy na neb arall, a’r cleifion wrth gwrs.
“Y cleifion sydd wrth wraidd popeth ar ddiwedd y dydd. Yn ogystal, mae’n bwysig iawn bod y sefydliad yn cydnabod y gwaith y mae pobl yn ei wneud ac yn ei ddathlu.”
Dywedodd Nick Napier-Andrews, Arweinydd Partneriaeth Strategol o ID Medical, sef noddwr y wobr: “Rydym wedi cefnogi’r wobr hon er sawl blwyddyn bellach. Mae clywed straeon am staff y GIG yn mynd y filltir ychwanegol i wneud gwahaniaeth ar gyfer eu cydweithwyr a’u cleifion yma o fewn Betsi Cadwaladr yn gwneud i mi lawenhau bob amser.
“Llongyfarchiadau fil i Peter, enillydd haeddiannol Gwobr y Filltir Ychwanegol.”
*Prif noddwr y Gwobrau Cyrhaeddiad yw Centerprise International. Ers dros 40 o flynyddoedd mae Centerprise International wedi bod yn ymroddedig at ddarparu datrysiadau TG arloesol, wedi'u teilwra i gwsmeriaid ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat.
Dywedodd Jez Nash, Prif Swyddog Gweithredol Centerprise International: “Rydym yn falch unwaith eto i fod yn cefnogi Gwobrau Cyrhaeddiad y Bwrdd Iechyd. Mae clywed am ymdrechion gwych staff y GIG ar draws Gogledd Cymru, a’u hysfa i wneud gwahaniaeth i fywydau eu cydweithwyr a’r bobl y maent yn gofalu amdanynt yn falm i’r enaid.
“Llongyfarchiadau mawr iawn i bawb a enwebwyd, yn arbennig i’r rhai a gyrhaeddodd y brig yn y deg categori.”
Tîm Trawma Ysbyty Gwynedd yn cipio gwobr am wella dogfennaeth cofnodion cleifion.
Mae Tîm Trawma ac Orthopaedeg Ysbyty Gwynedd wedi derbyn gwobr am wella’r broses o reoli cleifion trawma yn yr ysbyty.
Gyda chymorth gan y Llawfeddyg Orthopedig Ymgynghorol Mr Agustin Soler, creodd y Llawfeddyg Orthopedig Mr Faisal Mohammed ‘The LIST’ – offeryn rheoli trawma a throsglwyddo gan ddefnyddio Microsoft Sharepoint.
Cafodd eu hymdrechon eu cydnabod yng Ngwobrau Cyrhaeddiad Betsi Cadwaladr eleni, ac o ganlyniad, y nhw oedd enillwyr y Wobr Ymchwil, Trawsnewid, Gwella ac Arloesi.
Mae ‘The LIST’ yn offeryn dyfeisgar, a hynny am ddim, sydd wedi derbyn cydnabyddiaeth gan Gomisiwn Bevan. Mae Mr Faisal Mohammed wedi derbyn Cymrodoriaeth Bevan gan fod y gwaith hwn yn cyd-fynd ag egwyddorion gofal iechyd darbodus.
Mae gwaith bellach ar y gweill gyda chydweithwyr yn yr adran Technoleg Gwybodaeth er mwyn helpu i greu meddalwedd annibynnol yn seiliedig ar ‘The LIST’, sydd wedi'i theilwra ar gyfer arbenigeddau sy'n gallu cyfathrebu â phrif ddata cleifion.
Dywedodd Karen Evans, Rheolwr Cyffredinol Cyfarwyddiaeth ar gyfer Llawfeddygaeth, Anaestheteg a Gofal Critigol yn Ysbyty Gwynedd, yr un a enwebodd y tîm ar gyfer y wobr hon: “Mae gan the LIST fanteision o ran gwella cyfathrebu, mae’n gynaliadwy, mae’n arbed arian, mae’n gwella dogfennaeth cofnodion cleifion ac mae’n hygyrch.”
Dywedodd Dylan Southern, o Star Units Ltd, noddwr y wobr: “Dangosodd y tri a gyrhaeddodd y rownd derfynol syniadau arloesol a chreadigol sy'n gwneud gwelliannau amlwg i wasanaethau'r GIG ar gyfer poblogaeth Gogledd Cymru. Roedd hi’n bleser bod yno yn y noson wobrwyo i glywed am y gwaith gwella trawiadol sy’n digwydd ar draws y rhanbarth.
“Rydym ni yn Star Units yn llongyfarch y tri a gyrhaeddodd y rownd derfynol, yn arbennig i’r tîm Trawma ac Orthopaedeg a enillodd y wobr hon.”
Prif noddwr y Gwobrau Cyrhaeddiad yw Centerprise International. Ers dros 40 o flynyddoedd mae Centerprise International wedi bod yn ymroddedig at ddarparu datrysiadau TG arloesol, wedi'u teilwra i gwsmeriaid ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat.
Dywedodd Jez Nash, Prif Swyddog Gweithredol Centerprise International: “Rydym yn falch unwaith eto i fod yn cefnogi Gwobrau Cyrhaeddiad y Bwrdd Iechyd. Mae clywed am ymdrechion gwych staff y GIG ar draws Gogledd Cymru, a’u hysfa i wneud gwahaniaeth i fywydau eu cydweithwyr a’r bobl y maent yn gofalu amdanynt yn falm i’r enaid.
“Llongyfarchiadau mawr iawn i bawb a enwebwyd, yn arbennig i’r rhai a gyrhaeddodd y brig yn y deg categori.”
Fferyllfa flaenllaw yn ennill Gwobr Arweinyddiaeth.
Mae fferyllydd sydd wedi rhoi degawdau o wasanaeth i Ogledd Cymru wedi cael ei chydnabod am ei rhinweddau arweinyddiaeth yng ngwobrau cyrhaeddiad blynyddol y Bwrdd Iechyd.
Enillodd Sue Murphy, sydd wedi rhoi gwasanaeth amhrisiadwy i’r GIG am dros 30 mlynedd, y Wobr Arweinyddiaeth yn y seremoni wobrwyo flynyddol, a gynhaliwyd yn Venue Cymru, Llandudno.
Cafodd Sue ei chydnabod am ei hymdrechion arweinyddiaeth ar draws addysg a hyfforddiant ar gyfer fferylliaeth, gan weithio fel arweinydd ymroddedig i wella sgiliau staff y Bwrdd Iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae Sue yn arweinydd tosturiol sy’n canolbwyntio ar y claf, mae’n agored ac yn onest, yn garedig ac yn barod i helpu, wedi ymrwymo i ddatblygiad ei thîm ac yn ysgogi eraill i fynd y filltir ychwanegol.
Dywedodd Alison Hughes, a dderbyniodd y wobr ar ran Sue ar y noson oherwydd bod Sue ar wyliau haeddiannol:
“Rydym yn hynod falch bod Sue wedi ennill y wobr hon. Mae’n bleser cael gweithio gyda hi.
“Mae Sue wedi bod gyda ni am dros 30 mlynedd ac mae wedi arwain ar sawl prosiect fferyllol, addysg a hyfforddiant. Mae wedi bod yn gyfarwyddwr fferylliaeth ar gyfer Ardal y Gorllewin y Bwrdd Iechyd.
Dywedodd Dr Olwen Williams, Cyfarwyddwr Cyswllt Arweinyddiaeth Glinigol y noddwyr, Addysg a Gwella Iechyd Cymru: “Mae arweinyddiaeth effeithiol, dosturiol a chefnogol yn ganolog i sut y gallwn barhau i wella gwasanaethau i’n cleifion yn ogystal â gwella profiad gweithwyr y GIG ledled Cymru.
“Roeddwn yn falch iawn o glywed tair enghraifft wych o arweinyddiaeth gan y Bwrdd Iechyd yn arddangos y gwerthoedd hynny. Llongyfarchiadau yn arbennig i Sue am ennill y wobr hon.”
*Prif noddwr y Gwobrau Cyrhaeddiad oedd Centerprise International. Am fwy na 40 mlynedd, mae Centerprise International wedi ymrwymo i ddarparu datrysiadau TGCh arloesol sydd wedi’u teilwra i gwsmeriaid ar draws y sector cyhoeddus a’r sector preifat.
Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Centerprise International, Jez Nash: “Rydym yn falch o gefnogi Gwobrau Cyrhaeddiad y Bwrdd Iechyd a chlywed am hanesion gwych ymdrechion staff y GIG ar draws Gogledd Cymru yn gwneud gwahaniaeth i’w cydweithwyr a’r bobl y maent yn gofalu amdanynt.
“Llongyfarchiadau mawr i bawb a gafodd eu henwebu heno, ac yn arbennig i enillwyr y deg categori.”
Gwirfoddolwraig yn Ynys Môn yn ennill gwobr am fynd y filltir ychwanegol i wella bywydau pobl sy’n byw gyda chyflyrau iechyd hirdymor.
Mae gwirfoddolwraig angerddol wedi cael ei chydnabod gyda gwobr arbennig am fynd y filltir ychwanegol i helpu i wella bywydau oedolion sy’n byw gyda chyflyrau iechyd hirdymor.
Helen Williams yw un o diwtoriaid gwirfoddol Rhaglenni Addysg i Gleifion (EPP Cymru) y Bwrdd Iechyd ac mae’n darparu cyrsiau hunanreoli i oedolion sy’n byw gyda chyflyrau hirdymor yn ogystal â gofalwyr ar draws Gogledd Cymru.
Dywedodd Elois Davis, Swyddog Cydgysylltu Hunan Ofal, a enwebodd Helen am y wobr: “Mae Helen yn angerddol iawn am ein gwasanaeth a’r effaith gadarnhaol y mae’n ei gael ar fywydau pobl. Mae’n eiriolwr gwych, gan siarad yn aml gyda gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a phobl y mae'n cwrdd â nhw am y cyrsiau a'r gwahaniaeth y maent wedi’i gwneud yn ei bywyd.
“Mae’n aml yn cael ei chlywed yn rhannu ei phrofiadau o fod yn diwtor gwirfoddol gyda chyfranogwyr y cwrs, gan eu hannog i ddilyn ei hesiampl. Un angerdd sydd ganddi yw cynyddu ein cronfa o wirfoddolwyr i’n galluogi i allu darparu mwy o gyrsiau ar draws Gogledd Cymru a chael mwy o ddarpariaeth Gymraeg.
“Mae Helen wedi rhoi dros 250 awr o’i hamser. Mae’n cefnogi pob aelod o’r tîm yn anhunanol, yn wirfoddolwyr a staff, a holl gyfranogwyr y cwrs ym mha bynnag ffordd y gallai. Mae Helen bob amser rhoi adborth agored a gonest ar bob agwedd ar ei hymgysylltiad â’n gwasanaeth, sy’n cynorthwyo gwelliannau, yn lleol ac ar gyfer EPP Cymru yn genedlaethol.”
Dywedodd Tricia Marsh, o Fferyllfa Rowlands, sef noddwr y wobr: “Mae gwirfoddolwyr wrth wraidd cymunedau ar draws Cymru, ac maent yn gwneud cyfraniad gwych wrth gefnogi cleifion a chydweithwyr sy’n gweithio yn ein GIG.
“Roeddem yn falch iawn o gefnogi’r wobr hon ac nid yn unig dathlu ymdrechion y rhai a gyrhaeddodd y rhestr fer, ond dathlu pawb sy’n gwneud cyfraniad gwirfoddol i wasanaethau sy’n cael eu darparu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
“Llongyfarchiadau i Helen am ennill y wobr hon.”
Prif noddwr y Gwobrau Cyrhaeddiad oedd Centerprise International. Am fwy na 40 mlynedd, mae Centerprise International wedi ymrwymo i ddarparu datrysiadau TGCh arloesol sydd wedi’u teilwra i gwsmeriaid ar draws y sector cyhoeddus a’r sector preifat.
Dywedodd CEO Centerprise International, Jez Nash: “Rydym yn falch iawn o gefnogi Gwobrau Cyrhaeddiad y Bwrdd Iechyd a chlywed am hanesion gwych ymdrechion staff y GIG ar draws Gogledd Cymru yn gwneud gwahaniaeth i’w cydweithwyr a’r bobl y maent yn gofalu amdanynt.
“Llongyfarchiadau mawr i bawb a gafodd eu henwebu heno, ac yn arbennig i enillwyr y deg categori.”
Dathlu dull partneriaeth rhaglen cymorth plant Ynys Môn.
Mae cydweithwyr sy’n gweithio mewn partneriaeth ar raglen arloesol sy’n cadw plant a phobl ifanc yn iach ar Ynys Môn wedi ennill gwobr fawreddog gan y Bwrdd Iechyd.
Mae’r tîm PIPYN (Pwysau Iach Plant yng Nghymru), sy’n arwain rhaglen i hyrwyddo bwyta’n iach a ffyrdd o fyw iach, wedi ennill Gwobr Partneriaeth yng Ngwobrau Cyrhaeddiad Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Mae’r tîm yn gweithio i gefnogi mynediad at fwyd iach a fforddiadwy, teithio actif ac yn cefnogi teuluoedd i wneud dewisiadau ffordd o fyw iach.
Mae tîm PIPYN wedi sefydlu partneriaeth waith gynhyrchiol rhwng nifer o sefydliadau a gwasanaethau’r Bwrdd Iechyd.
Mae’r amcanion yn cynnwys gwella mynediad plant oed cynradd Ynys Môn at fwyd iach pan fyddant yn yr ysgol, bodloni eu hanghenion maethol a hyrwyddo pwysau iach a mabwysiadu dull system gyfan i fynd i’r afael â gorbwysedd a gordewdra ymhlith plant.
Dywedodd Harriet Williams, Pennaeth yr Adran Ddeieteg yn Ardal y Dwyrain y Bwrdd Iechyd, a enwebodd y tîm: “Rydym wedi ein synnu ein bod wedi ennill! Roedd hi’n gystadleuaeth a hanner yn erbyn timau sydd wedi gwneud gwaith da iawn.
“Mae gweithio mewn partneriaeth yn hanfodol – ni allwn wneud unrhyw beth heb ein partneriaid. Ni allem wneud y cynnydd yr ydym yn ei wneud gyda gordewdra plant hebddynt.
“Mae ein partneriaid yn dod o’r GIG, yr Awdurdodau Lleol, y trydydd sector a’r sector masnachol – mae pawb yn dod ynghyd i’n helpu i wneud pethau’n bosibl. Mae cydnabod y gwaith hwn yn hynod bwysig.
“Dyma 40ain blwyddyn Anwen, sef aelod o’n tîm, yn y GIG felly mae’n hynod arbennig iddi!”
Dywedodd yr Athro Joe Yates, Is-ganghellor Prifysgol Wrecsam, sef noddwr y wobr: “Mae cydweithio a chyd-gynhyrchu yn hanfodol wrth ddarparu gwasanaethau GIG effeithiol sy’n canolbwyntio ar bobl.
“Llongyfarchiadau mawr i dîm PIPYN am eu gwaith rhagorol yn cefnogi plant a phobl ifanc. Maent wedi harneisio pŵer gweithio mewn partneriaeth, gan gydweithio'n effeithiol gyda nifer o asiantaethau ac unigolion i gyflawni targedau cymunedol y cytunwyd arnynt. Rwy’n falch iawn o’u gweld yn cael eu canmol am eu hymdrechion.”
Prif noddwr y Gwobrau Cyrhaeddiad oedd Centerprise International. Am fwy na 40 mlynedd, mae Centerprise International wedi ymrwymo i ddarparu datrysiadau TGCh arloesol sydd wedi’u teilwra i gwsmeriaid ar draws y sector cyhoeddus a’r sector preifat.
Dywedodd Jez Nash, Prif Swyddog Gweithredol Centerprise International: “Rydym yn falch iawn o gefnogi Gwobrau Cyrhaeddiad y Bwrdd Iechyd a chlywed am hanesion gwych ymdrechion staff y GIG ar draws Gogledd Cymru yn gwneud gwahaniaeth i’w cydweithwyr a’r bobl y maent yn gofalu amdanynt.
“Llongyfarchiadau mawr i bawb a gafodd eu henwebu heno, ac yn arbennig i enillwyr y deg categori.”
Meddyg Teulu yng Nghricieth yn cael ei gydnabod am ei ymdrechion i gefnogi’r Gymraeg.
Mae ymdrechion Meddyg Teulu yng Nghricieth i gynnig gofal yn y Gymraeg i’w gleifion wedi cael ei gydnabod ar ôl iddo ennill Gwobr y Gymraeg Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn eu seremoni wobrwyo flynyddol yn dathlu cyflawniadau eu staff.
Yn wreiddiol o Dde Affrica, mae Dr Darren Cornish wedi bod yn Feddyg Teulu yng Nghricieth am bum mlynedd ac mae wedi bod yn astudio Cymraeg gyda thiwtor mewnol yn y Bwrdd Iechyd drwy gwrs Cymraeg canolradd yn Nant Gwrtheyrn. Mae wedi bod yn atgyfnerthu ei ddysgu gyda’r ap Duolingo ac mae bellach yn siaradwr Cymraeg hyfedr a hyderus.
Mae cymorth a hyrwyddiad Dr Cornish i’r Gymraeg yn rhagorol ac mae ei ymdrechion yn esiampl wych o roi ‘cynnig rhagweithiol’ i gleifion drwy gynnig gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae Dr Cornish hefyd wedi bod yn ddylanwad cadarnhaol ar gyd-feddygon sy’n dymuno dysgu neu wella eu Cymraeg, gan ddechrau pob sgwrs yn y Gymraeg a normaleiddio eu defnydd o’r iaith yn y feddygfa.
Dywedodd Meilyr Emrys, Swyddog y Gymraeg yn y Bwrdd Iechyd a enwebodd Dr Cornish: “Mae Darren yn arwain trwy esiampl ac mae ei benderfynoldeb i annog eraill i weld y pwysigrwydd o allu darparu gwasanaethau dwyieithog – yn enwedig mewn cymuned lle mae’r rhan fwyaf o bobl yn siarad Cymraeg – yn wych.”
Dywedodd David Wootton, o gwmni Qioptig, sef noddwr y wobr: “Rydym yn falch iawn o gefnogi Gwobr y Gymraeg a chlywed am ymdrechion staff Betsi i helpu pobl gael mynediad at wasanaethau dwyieithog ar draws Gogledd Cymru.
“Llongyfarchiadau i Dr Cornish ar ei ymdrechion rhagorol i hyrwyddo’r Gymraeg yn ei gymuned leol – llongyfarchiadau!”
Prif noddwr y Gwobrau Cyrhaeddiad oedd Centerprise International. Am fwy na 40 mlynedd, mae Centerprise International wedi ymrwymo i ddarparu datrysiadau TGCh arloesol sydd wedi’u teilwra i gwsmeriaid ar draws y sector cyhoeddus a’r sector preifat.
Dywedodd CEO Centerprise International, Jez Nash: “Rydym yn falch iawn o gefnogi Gwobrau Cyrhaeddiad y Bwrdd Iechyd a chlywed am hanesion gwych ymdrechion staff y GIG ar draws Gogledd Cymru yn gwneud gwahaniaeth i’w cydweithwyr a’r bobl y maent yn gofalu amdanynt.
“Llongyfarchiadau mawr i bawb a gafodd eu henwebu heno, ac yn arbennig i enillwyr y deg categori.”
Nyrs Iechyd Rhywiol yn dod i’r brig am fynd i’r afael ag anghydraddoldebau a hybu cynwysoldeb y gymuned LHDTC+.
Mae Nyrs Iechyd Rhywiol Betsi Cadwaladr wedi cael cydnabyddiaeth â Gwobr Cyrhaeddiad am ei ymdrechion i godi ymwybyddiaeth o wasanaethau iechyd rhywiol a chyngor i’r gymuned LHDTC+.
Mae Richard Newton wedi arwain gwaith arloesol wrth fynd i’r afael ag anghydraddoldebau. Mae’n mynd i ddigwyddiadau er mwyn rhoi cyngor ynglŷn ag iechyd rhywiol a darparu manylion grwpiau cymorth LHDTC+ yng Ngogledd Cymru. Mae ei ymdrechion wedi helpu i wella ymddiriedaeth a hyder, ac o ganlyniad, mae pobl yn teimlo eu bod yn gallu troi at y gwasanaethau iechyd.
Diolch i’w ymrwymiad, Richard yw enillydd y Wobr Amrywiaeth, Cydraddoldeb a Chynhwysiant yn y Gwobrau Cyrhaeddiad Staff eleni, a gynhaliwyd yn Venue Cymru yn ddiweddar.
Dywedodd Jennifer Dowell-Mulloy, Rheolwr Cydraddoldeb a Chynhwysiant, a’r un a enwebodd Richard: “Mae Richard yn ysbrydoliaeth, yn gweithio i wasanaethau iechyd rhywiol cynhwysol gyda mwy o ymwybyddiaeth o ofal sy'n ystyriol o rywedd.
“Mae wedi bod yn rhan allweddol o’r gwaith o gyd-gynhyrchu dogfennau canllaw ar gyfer gofal iechyd cynhwysol i bobl sy’n profi digartrefedd, gan ehangu cwmpas cychwynnol y canllawiau i gynnwys iechyd rhywiol.
“Mae’r wobr yn cydnabod ei gyfraniad sylweddol at gefnogi ac annog amrywiaeth, cydraddoldeb a chynhwysiant yn y gweithle. Mae Richard wedi arddangos rhagoriaeth wrth hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol i bawb, gan ddangos tosturi a gweithio i ddileu gwahaniaethu.”
Yn ogystal, sefydlodd Richard ddigwyddiad o’r enw Iechyd Rhywiol - Amrywiaeth Rhywedd Gogledd Cymru yn Ysbyty Glan Clwyd er mwyn hybu mwy o ddealltwriaeth yn ymwneud â gofal iechyd rhywiol cynhwysol i staff a rhanddeiliaid.
Noddwyd y wobr hon gan Llais Cymru, y corff cenedlaethol annibynnol sy’n rhoi llais cryfach i wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Dywedodd Cyfarwyddwr Rhanbarthol Gogledd Cymru, Geoff Ryall-Harvey: “Mae’n bwysig iawn fod pawb yn cael mynediad cyfartal at wasanaethau a’u bod yn ymwybodol o’r hyn sydd ar gael iddyn nhw. Yn ogystal, mae’n bwysig eu bod yn teimlo fod croeso iddyn nhw pan fyddant yn defnyddio gwasanaethau’r GIG.
“Llongyfarchiadau i Richard am ei ymdrechion arbennig i sicrhau bod hybu iechyd rhywiol yn digwydd mewn ffordd gynhwysol ac yn cyrraedd pawb.”
Prif noddwr y Gwobrau Cyrhaeddiad oedd Centerprise International. Am fwy na 40 mlynedd, mae Centerprise International wedi ymrwymo i ddarparu datrysiadau TGCh arloesol sydd wedi’u teilwra i gwsmeriaid ar draws y sector cyhoeddus a’r sector preifat.
Dywedodd CEO Centerprise International, Jez Nash: Rydym yn falch iawn o gefnogi Gwobrau Cyrhaeddiad y Bwrdd Iechyd. Mae clywed am ymdrechion gwych staff y GIG ar draws Gogledd Cymru, a’u hysfa i wneud gwahaniaeth i fywydau eu cydweithwyr a’r bobl y maent yn gofalu amdanynt yn falm i’r enaid.”
“Llongyfarchiadau mawr i bawb a gafodd eu henwebu heno, ac yn arbennig i enillwyr y deg categori.”
Stuart, hyrwyddwr fferylliaeth werdd yn cael ei gydnabod yng ngwobrau iechyd Gogledd Cymru.
Mae arloeswr amgylcheddol wedi’i ganmol am ei am brosiect lleihau ôl troed carbon sy'n cyfateb i fynd â char oddi ar y ffordd am fwy na 1,200 o filltiroedd.
Llongyfarchiadau i Stuart Firth, Technegydd Fferyllfa a Swyddog Trawsnewid Cynaliadwy yn Ysbyty Glan Clwyd, enillydd gwobr Cynaliadwyedd Amgylcheddol 2024 yng Ngwobrau Cyrhaeddiad Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Wedi’i enwebu am ei angerdd a’i frwdfrydedd i symud yr agenda o ddatgarboneiddio yn ei blaen, enillodd galonnau a meddylfryd ei gydweithwyr fferyllfa gan eu hannog i ddod ar ei daith er mwyn ysgogi dyfodol gwyrddach i’r Bwrdd Iechyd.
Cafodd Stuart ei gydnabod am ei arferion arloesol, gan gynnwys lleihau nifer y bagiau plastig untro a ddefnyddir i gyflenwi meddyginiaethau ar bresgripsiwn i gleifion allanol, a bu hynny’n llwyddiant mawr. Yn ogystal, newidiodd 42% o fagiau plastig i fagiau papur ar gyfer cyflenwi meddyginiaethau i gleifion mewnol. Mae'r gwaith hwn ynddo ei hun yn ostyngiad carbon, sy'n cyfateb i daith car gwerth 1,235 o filltiroedd.
Ar ben hynny, mae wedi cyflwyno proses storio meddyginiaeth newydd ar lawer o wardiau yn Ysbyty Glan Clwyd i leihau gwastraff meddyginiaethau. Yn ogystal, mae wedi disodli biniau gwastraff fferyllol plastig gyda biniau gwastraff cardbord yn y fferyllfa, ac y mae wedi ymuno â chynllun ailgylchu pinnau inswlin.
Dywedodd Stuart: “Rwyf ar ben fy nigon. Mae hyn yn hollol wych, ond mae’n adlewyrchu’r gwaith caled y mae cymaint o bobl yn ei wneud dros gynaliadwyedd.
“Mae angen cydnabod y Swyddogion Cynaliadwyedd a'r Grwpiau Gwyrdd niferus ar draws Betsi am eu gwaith. Mae angen i gynaliadwyedd fod yn flaengar ac yn ganolog ym mhopeth a wnawn yn y GIG yng Nghymru.
“Mae’r argyfwng hinsawdd yn rhywbeth y mae’n rhaid i ni fynd i’r afael ag ef ar frys. Mae'r cyfnod lle gallwn wneud rhywbeth ynglŷn â’r hinsawdd yn cau'n gyflym. Mae’r GIG yn sefydliad anferth, felly, gorau po fwyaf o bobl y gallwn eu cyrraedd, gorau po fwyaf o weithwyr a phobl yr ydym yn cyffwrdd â’u bywydau – mae’’n golygu y gallwn ledaenu’r neges am newid yn yr hinsawdd yn eang.”
Dywedodd Steve Teare, Cyfarwyddwr Gleeds, noddwr y wobr: “Mae cynaliadwyedd, yn haeddiannol, yn flaenoriaeth i ni i gyd ar hyn o bryd, ac roedd yn wych clywed am y prosiectau lleihau carbon sy’n digwydd yng Ngogledd Cymru.
“Llongyfarchiadau i Stuart am gipio’r wobr hon am ddarn o waith arloesol a phwysig dros ben.”
Prif noddwr y Gwobrau Cyrhaeddiad oedd Centerprise International. Am fwy na 40 mlynedd, mae Centerprise International wedi ymrwymo i ddarparu datrysiadau TGCh arloesol sydd wedi’u teilwra i gwsmeriaid ar draws y sector cyhoeddus a’r sector preifat.
Dywedodd CEO Centerprise International, Jez Nash: “Rydym yn falch unwaith eto i fod yn cefnogi Gwobrau Cyrhaeddiad y Bwrdd Iechyd. Mae clywed am ymdrechion gwych staff y GIG ar draws Gogledd Cymru, a’u hysfa i wneud gwahaniaeth i fywydau eu cydweithwyr a’r bobl y maent yn gofalu amdanynt yn falm i’r enaid.
“Llongyfarchiadau mawr i bawb a gafodd eu henwebu heno, ac yn arbennig i enillwyr y deg categori.”
Cydnabod seren y dyfodol gyda gwobr gyrhaeddiad y Bwrdd Iechyd.
Mae Anya Hughes, Ymarferydd Camddefnyddio Sylweddau yng Ngharchar Berwyn yn Wrecsam wedi derbyn gwobr Seren y Dyfodol yng ngwobrau cyrhaeddiad Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn ddiweddar.
Mae Anya wedi cael effaith uniongyrchol yn ei maes gwaith, ar ei thîm ac ar ei chleifion. Mae hi wedi dangos potensial mawr ac mae hi wedi rhagori yn ei maes ymarfer arbenigol, gan fynd ati'n ddyfal i wella ei gwybodaeth am Hepatitis C. Mae hi wedi gweithio'n ddiflino ac mae hi wedi goresgyn llawer o rwystrau er mwyn galluogi pob carcharor yng Ngharchar Berwyn i gael cynnig prawf am feirysau sy'n cael eu cludo yn y gwaed, ac mae mwy na 95 y cant wedi derbyn y cynnig ac mae'r rhai sydd wedi profi'n bositif wedi dechrau triniaeth.
Mae hyn wedi arwain at alluogi Carchar Berwyn i gyhoeddi eu bod wedi microwaredu Hepatitis C* yn y carchar.
Dywedodd Sarah Hulse, Fferyllydd Arweiniol Feirysau a Gludir yn y Gwaed a enwebodd Anya ar gyfer y wobr:
"Mae Anya bob amser yn awyddus i ddysgu a datblygu ei gwybodaeth a'i sgiliau - gan ymgyfarwyddo'n gyflym ag arfer gorau a thechnoleg newydd, er enghraifft trwy gyflwyno profion ar bwynt gofal a ffibrosganiau o'r iau.
“Mae Anya yn frwdfrydig iawn ac mae ganddi gymaint o gymhelliant i ddatblygu hi ei hun a'r gwasanaeth, gan ysbrydoli'r rhai o'i hamgylch. Er ei bod ar ddechrau ei gyrfa, oherwydd y gwaith llwyddiannus y mae hi'n ei wneud, mae eraill yn awyddus i ddysgu ganddi.
"Mae hi wedi cyflwyno mewn cynadleddau cenedlaethol ac mae hi wedi cyflwyno i'r Uwchgynhadledd Ryngwladol ar Hepatitis yn Lisbon yn gynharach eleni.
"Mae Anya mor ddiwyd ac ymroddedig ac mae dyfodol addawol iawn o'i blaen."
Dywedodd Niall Peaker o Bluestones Medical, noddwr categori'r wobr, a gyflwynodd y wobr i Anya:
"Mae'n bleser gennym gefnogi dathliad y Bwrdd Iechyd o gyfraniad staff fel Anya, sy'n egnïol, sy'n ymrwymedig ac yn arloesol. Mae hi'n nodweddu seren y dyfodol yng ngwir ystyr y gair ac mae wedi bod yn noson ysbrydoledig i weld y cydweithwyr gwerthfawr hyn yn derbyn y gydnabyddiaeth maent yn ei haeddu. Llongyfarchiadau i Anya ac i bawb sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn y categori hwn."
Prif noddwr y Gwobrau Cyrhaeddiad yw Centerprise International. Ers dros 40 o flynyddoedd, mae Centerprise International wedi bod yn ymroddedig at ddarparu datrysiadau TG arloesol, wedi'u teilwra i gwsmeriaid ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat.
Dywedodd Jez Nash, Prif Swyddog Gweithredol Centerprise International: “Rydym yn falch unwaith eto i fod yn cefnogi Gwobrau Cyrhaeddiad y Bwrdd Iechyd. Mae clywed am ymdrechion gwych staff y GIG ar draws Gogledd Cymru, a’u hysfa i wneud gwahaniaeth i fywydau eu cydweithwyr a’r bobl y maent yn gofalu amdanynt yn falm i’r enaid.”
“Llongyfarchiadau mawr iawn i bawb a enwebwyd, yn arbennig i’r rhai a gyrhaeddodd y brig yn y deg categori.
*Cynigiwyd prawf i 100 y cant o garcharorion, gyda mwy na 90 y cant yn derbyn y cynnig a thros 90 y cant a oedd yn profi'n bositif yn dechrau ar driniaeth.
Tîm Anableddau Dysgu Ysbyty Bryn y Neuadd yn ennill gwobr Tîm y Flwyddyn y Bwrdd Iechyd am eu gofal sy’n canolbwyntio ar y claf.
Mae tîm o staff Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr sy’n darparu gofal rhagorol ar gyfer pobl sydd ag anghenion iechyd cymhleth ac anableddau dysgu wedi cael eu coroni yn Dîm y Flwyddyn y Bwrdd Iechyd yn y seremoni Gwobrau Cyrhaeddiad Staff blynyddol.
Enillodd tîm Ward Foelas o Ysbyty Bryn y Neuadd y clod am eu hymroddiad, eu harloesedd a’u hymrwymiad i roi cleifion yn gyntaf bob amser.
Cafodd eu penderfynoldeb i fynd y filltir ychwanegol i gefnogi claf ifanc a oedd yn cael triniaeth ddialysis ei ganmol, gan fod iechyd a lles y claf, diolch iddynt, wedi gwella’n sylweddol yn dilyn mewnblaniad aren llwyddiannus.
Mae’r tîm yn cynnwys staff o ddisgyblaethau amrywiol, sy’n gweithio gyda’i gilydd i ddefnyddio eu harbenigedd a’u profiadau er budd y rhai y maent yn gofalu amdanynt.
Dywedodd y Fetron Tracey Clement, Rheolwr Safle Clinigol Anableddau Dysgu yn Ysbyty Bryn y Neuadd: “Rwyf mor falch o’r tîm hwn, ac maent yn llwyr haeddu’r wobr hon – nid am eu tosturi a’u gwaith tîm yn unig, ond am eu dull sy’n canolbwyntio ar y claf.
“Aethant y filltir ychwanegol i gefnogi claf drwy baratoi a darparu dialysis ar y ward tan fod y claf yn ddigon da i fynd ar y rhestr drawsblannu. Yna, teithiodd aelodau o’r tîm i Lerpwl ac yn ôl am dair wythnos i sicrhau bod y claf yn gartrefol gydag wynebau cyfarwydd yn dilyn trawsblaniad llwyddiannus. Mae’r claf hwn bellach mewn llety â chymorth, yn mynychu’r coleg a byw bywyd i’r eithaf.”
Dywedodd Rhys Edwards, o MPH Construction, sef noddwr Tîm y Flwyddyn: “Roedd yn noson hyfryd ac roeddem wedi ein hysbrydoli i glywed llawer o enghreifftiau o sut y gall timau wneud pethau gwych i’w cleifion.
“Mae pob un ohonom yn MPH Construction yn llongyfarch y tîm o Ward Foelas, Ysbyty Bryn y Neuadd, ar eu gwobr. Roedd yn bleser o’r mwyaf cael gweld eu gwaith caled yn cael ei gydnabod a’i wobrwyo ar y noson. Hefyd, llongyfarchiadau i bawb a gyrhaeddodd y rhestr fer.”
Prif noddwr y Gwobrau Cyrhaeddiad oedd Centerprise International. Am fwy na 40 mlynedd, mae Centerprise International wedi ymrwymo i ddarparu datrysiadau TGCh arloesol sydd wedi’u teilwra i gwsmeriaid ar draws y sector cyhoeddus a’r sector preifat.
Dywedodd CEO Centerprise International, Jez Nash: “Rydym yn falch iawn o gefnogi Gwobrau Cyrhaeddiad y Bwrdd Iechyd a chlywed am hanesion gwych ymdrechion staff y GIG ar draws Gogledd Cymru yn gwneud gwahaniaeth i’w cydweithwyr a’r bobl y maent yn gofalu amdanynt.
“Llongyfarchiadau mawr i bawb a gafodd eu henwebu heno, ac yn arbennig i enillwyr y deg categori.”