Neidio i'r prif gynnwy

Diwrnod Ymwybyddiaeth Llid yr Ymennydd Byd-eang: Rhieni yn codi ymwybyddiaeth o symptomau llid yr ymennydd er cof am eu bachgen bach

4 Hydref 2024

Mae rhieni bachgen bach a fu farw’n drasig o lid yr ymennydd yn naw mis oed yn annog rhieni eraill i fod yn fwy ymwybodol o symptomau’r clefyd.

Bu farw Lucas Munslow, o’r Fflint, ar 18 Mai 2019 gan adael ei rieni, Nathan a Kim Munslow, wedi’u llorio’n llwyr.

Nid tan awtopsi Lucas y darganfuwyd ei fod wedi marw o lid yr ymennydd, gadawodd hyn ei rieni wedi’u syfrdanu gan nad oedd wedi datblygu brech, y symptom mwyaf adnabyddus o’r clefyd.

Dywedodd ei fam, Kim: “Roedd Lucas yn fabi mor hapus, roedd bob amser yn gwenu a daeth â llawenydd i fywydau pawb o’i gwmpas.

“Y diwrnod cyn i ni golli Lucas, nid oedd fel fe’i hun. Roedd ganddo dymheredd ac roedd yn chwydu. Fe aethom ag ef at ein Meddyg Teulu a dywedodd fod ganddo haint firaol ond yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw, roedd ei ymddygiad yn peri mwy o bryder i ni, nid oedd yn bwyta ac roedd yn swrth iawn.

“Ar y pryd, roeddwn yn credu y byddai’n cymryd ychydig o ddyddiau iddo ddod ato’i hun, ond anffodus, nid oedd hyn yn wir.” (paragraff newydd a brawddeg wedi’i dileu uchod)

Y diwrnod canlynol, dirywiodd Lucas. Daeth yn anystwyth yn gyflym ym mreichiau ei fam, dioddefodd sawl ffit epilepsi a chafodd ei ruthro i’r ysbyty lle bu farw.

I nodi Diwrnod Llid yr Ymennydd Byd-eang eleni, mae Kim a Nathan yn rhannu stori Lucas mewn ymgais i atal teuluoedd eraill rhag dioddef yr un golled ddinistriol ag y gwnaethant a helpu rhieni eraill i adnabod y symptomau’n gynnar.

“Roeddem wedi ein synnu’n fawr pan ddywedwyd wrthym fod gan Lucas lid yr ymennydd, roeddem bob amser yn meddwl mai brech oedd y symptom allweddol i edrych amdano, rhywbeth nad oedd ganddo erioed felly ni chroesodd ein meddyliau. Pe baem wedi gwybod mwy am y symptomau eraill sy'n gysylltiedig â llid yr ymennydd, byddem wedi gwthio am fwy o brofion.

Ychwanegodd Kim, “Yr hyn yr ydym eisiau o farwolaeth Lucas nawr yw helpu i godi ymwybyddiaeth o’r symptomau llai cyfarwydd, ac os gall yr hyn a ddigwyddodd i Lucas helpu o leiaf un teulu i osgoi’r trawma yr ydym wedi bod drwyddo, yna byddai’n dod â chysur mawr i ni a sicrhau na fu Lucas farw yn ofer.”

Mae llid yr ymennydd yn haint ar y pilenni amddiffynnol sy'n amgylchynu'r ymennydd a llinyn asgwrn y cefn. Gall effeithio ar unrhyw un, ond mae’n fwy cyffredin mewn babanod, plant ifanc, plant yn eu harddegau a phobl ifanc.

Gall symptomau llid yr ymennydd ddatblygu’n gyflym a gallant gynnwys:

  • tymheredd uchel
  • bod yn sâl
  • cur pen
  • brech nad yw’n pylu pan fydd gwydr yn cael ei rolio drosti (ond ni fydd brech bob amser yn datblygu)
  • gwddf anystwyth
  • atgasedd at oleuadau llachar
  • anymatebol neu syrthni
  • ffitiau epilepsi

Dywedodd Dr Pete Williams, Meddyg Ymgynghorol mewn Meddygaeth Frys a Meddygaeth Brys Bediatrig yn Ysbyty Gwynedd: “Colli plentyn yw hunllef waethaf pob rhiant ac mae Nathan a Kim yn ddewr iawn yn ail-fyw’r hyn yr aethant drwyddo i helpu eraill.

“Er ein bod wedi gweld gostyngiad mawr yn y marwolaethau sy’n gysylltiedig â llid yr ymennydd yn y DU dros yr 20 mlynedd ddiwethaf, yn bennaf oherwydd y rhaglen frechu lwyddiannus, mae’r clefyd yn dal i fod o gwmpas a gall fod yn farwol, felly mae angen i bawb fod yn ymwybodol o’r holl symptomau.

“Byddaf bob amser yn dweud wrth rieni am ymddiried yn eu greddfau, peidiwch ag aros i’r holl symptomau ymddangos neu tan fydd brech yn datblygu. Gall rhywun sydd â llid yr ymennydd ddirywio’n gyflym iawn.

“Rhieni sy’n adnabod eu plant orau, maent yn gwybod os ydynt yn ymddwyn yn wahanol i’r arfer ac os ydynt yn parhau i fod â phryderon ar ôl cael cyngor meddygol, nid oes unrhyw beth o’i le ar ofyn am ail farn.”

Nawr, mae Nathan a Kim yn gobeithio parhau i godi ymwybyddiaeth ynghylch llid yr ymennydd er cof am Lucas gyda Kim hefyd yn cynllunio nenblymio noddedig er budd Sefydliad Ymchwil Llid yr Ymennydd.

Yn ddiweddar, fe wnaeth Kim a Nathan gwrdd â Carol Shillabeer, Prif Weithredwr y Bwrdd Iechyd, i rannu eu profiad a thrafod ffyrdd y gallant hwy a’r sefydliad gydweithio i godi mwy o ymwybyddiaeth ynghylch llid yr ymennydd.

Ychwanegodd Kim: “Fy neges i rieni eraill yw peidiwch ag aros am frech, os yw eich plentyn yn sâl ac yn dangos unrhyw symptomau sy’n gysylltiedig â llid yr ymennydd, gweithredwch ar unwaith. Ceisiwch ymddiried yn eich greddf bob amser, hyd yn oed yn wyneb sicrwydd gan feddygon, os ydych yn ofni bod rhywbeth o’i le.”