Eleni, mae Kristy Jo-Howells, Arweinydd y Tîm Coginio ac Alexis Parry, Goruchwyliwr Arlwyo ill dwy yn gweithio ar Ddydd Nadolig yn Ysbyty Maelor Wrecsam.
Hwn yw'r tro cyntaf i Kirsty weithio ar Ddydd Nadolig ac mae hi'n gweithio ar y sifft rhwng 6am a 2pm. Dywedodd Kristy: "Dydw i ddim yn siŵr beth i'w ddisgwyl eto ond rydw i'n meddwl y bydd pawb ychydig yn fwy llawen ond byddwn ni'n brysur yn sicrhau bod y brecwast yn cael ei goginio a'i weini ar gyfer yr holl staff a chleifion, ac wedyn, byddwn ni'n mynd ati'n syth i goginio'r cinio Nadolig.
"Ar ôl fy sifft, bydda' i'n cael cinio gyda'm brawd a'm chwaer-yng-nghyfraith, felly mae gweithio'n fonws gan na fydd rhaid i mi baratoi fy nghinio Nadolig fy hun."
Eleni, mae Ysbyty Maelor Wrecsam yn disgwyl gweini rhyw 100 o brydau a phwdinau ar gyfer y Nadolig, a bydd rhyw 12 o aelodau staff ar y sifft am y diwrnod cyfan.