Ar Ddydd Nadolig, bydd miloedd o’n staff yn parhau i weithio, gan dreulio tymor y Nadolig gyda’u cydweithwyr yn gofalu am gleifion a’r rhai sydd angen gofal brys.
Dyma rai o'r aelodau staff hynny o amrywiol ysbytai ar draws Gogledd Cymru a fydd yn gofalu am eraill ac yn cefnogi'r GIG ar Ddydd Nadolig.
Cinio Nadolig yw asgwrn cefn gwneud y diwrnod yn un arbennig, ac mae ein ffreuturau ar agor fel arfer yn coginio’r holl drimins i’n staff a’n cleifion.