9 Hydref 2024
Mae timau llawfeddygol a staff theatr yn Ysbyty Gwynedd bellach wedi cynnal mwy na 140 o lawdriniaethau â chymorth robotig – gan ddod â gwellhad cyflymach a llai poenus i gleifion.
Cyflwynwyd Robot Llawfeddygol Versius CMR i waith y Bwrdd Iechyd am y tro cyntaf yn 2022, fel rhan o Raglen Genedlaethol Llawdriniaethau Robotig Llywodraeth Cymru sydd â’r nod o wella canlyniadau i gleifion canser drwy gynyddu nifer y cleifion ledled Cymru sydd yn medru derbyn llawdriniaethau llai-ymyrrol anfewnwthiol.
Yn dilyn cychwyn llwyddiannus o fewn yr adran Gynaecoleg, dechreuodd Llawfeddygon Cyffredinol o bob rhan o’r Bwrdd Iechyd ddefnyddio’r system robotig i drin canser y coluddyn mewn cleifion lle’r oedd hynny’n addas a gyda’i gilydd maent bellach wedi cynnal mwy na 140 o driniaethau robotig drwy ddefnyddio’r dechnoleg hon.
Maria Pedrosa o Fangor oedd y 100fed claf i dderbyn llawdriniaeth robotig yn Ysbyty Gwynedd gan ddefnyddio'r peiriant CMR.
Mae gan Maria y genyn BRCA1 (amrywiad genynol sy’n cynyddu’n fawr y siawns o ddatblygu canser y fron a chanser yr ofari) ac fe gafodd hi hysterectomi llawn.
“Mae hanes cryf o ganser yn fy nheulu” meddai, “ac ar ôl profion o’m genynnau gwelais fod gennyf y genyn BRCA1.
“Mae gen i risg uchel iawn o ddatblygu canser felly roedd yn well i mi gael hysterectomi llawn er mwyn lleihau’r risg honno.
“Roedd llawdriniaeth robotig yn rhywbeth oedd yn apelio ataf wedi i mi glywed am y manteision o gael adferiad cyflymach a llai poenus”, meddai. “Rydw i wedi bod yn gwneud yn dda iawn ers y llawdriniaeth, fe wnes i wella'n gyflym iawn ac nid oedd fawr o boen gennyf.
“Mae’n wych bod y dechnoleg yma ar gael i gleifion yng Ngogledd Cymru a hoffwn ddiolch i’r tîm cyfan a fu’n gofalu amdanaf yn ystod fy nghyfnod yn Ysbyty Gwynedd.”
Mae manteision mawr i gleifion sy’n derbyn llawdriniaeth â chymorth robotig ac mae’r rhain yn cynnwys llai o boen ar ôl llawdriniaeth a gwellhad cyflymach, gall hyn arwain at ryddhau'n gynt o'r ysbyty, a hynny hyd at ddiwrnod cyfan mewn nifer o achosion.
Dywedodd Mr Richard Peevor, Llawfeddyg Gynaecolegol Ymgynghorol yn Ysbyty Gwynedd: “Rydym yn falch iawn ac yn hapus dros ben fel tîm ein bod wedi cyrraedd y garreg filltir hon.
“Mae’r cynnydd wedi bod yn arbennig o dda, rydym wedi ehangu’r defnydd o’r robot yn ein harbenigeddau penodol ac mae hyn wedi’n galluogi ni i’w ddefnyddio wrth drin cleifion â chyflyrau mwy cymhleth.
“Ond yn bwysicach, rydyn ni yn gweld y budd i’n cleifion, mae llai o boen ar ôl llawdriniaeth ac maen nhw’n dychwelyd adref yn gynt.”
“Mae gan lawdriniaeth robotig nifer fawr o fanteision o gymharu â llawdriniaeth agored”, ychwanegodd Mr Anil Lala, Llawfeddyg y Colon a’r Rhefr ac Arweinydd Robotig ar gyfer tîm y Colon a’r Rhefr. “Mae’r buddion yn cynnwys llai o glotiau gwaed, cyfnodau byrrach yn yr ysbyty a gwellhad cyflymach ac rydym wedi gweld rhai canlyniadau cadarnhaol iawn ers i’n tîm ddechrau defnyddio’r dechnoleg hon.
“Roeddem wrth ein bodd ein bod fel tîm wedi cyrraedd y 100fed carreg filltir yn ystod y misoedd diwethaf ac rydym yn edrych ymlaen at ddatblygu’r gwasanaeth hwn ymhellach o fewn adran y Colon a’r Rhefr yn y dyfodol.”
Un o flaenoriaethau allweddol y Bwrdd Iechyd yw gwella amseroedd aros ar gyfer triniaethau ac apwyntiadau ar draws Gogledd Cymru. Er bod y defnydd o lawfeddygaeth robotig yn ddatblygiad cadarnhaol i’r Bwrdd Iechyd, mae nifer o wasanaethau wedi wynebu heriau mawr yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac mae gwaith yn cael ei wneud i wella’r meysydd hyn fel y gellir gweld cleifion cyn gynted â phosibl.