24.12.2024
Mae rheolwr cyfarwyddiaeth feddygol, a oedd hefyd yn gwasanaethu fel Cyrnol yn y Fyddin Diriogaethol, wedi sefyll i lawr yn dilyn 39 mlynedd o wasanaeth “breintiedig”.
Dechreuodd Mark Andrews ei yrfa yn Ysbyty Glan Clwyd, fel nyrs dan hyfforddiant yn 1985 a bu’n gysylltiedig â bron holl ddatblygiadau’r Ysbyty ac ailgyfluniadau’r Bwrdd yn y cyfnod hwnnw. Cyflawnodd hefyd wasanaeth gweithredol fel rhan annatod o gorff meddygol y Fyddin yn Irac, 2003, ac Affganistan yn 2011.
Daeth dwsinau i Ddarlithfa Ôl-raddedigion yr Ysbyty, i glywed cyfres o areithiau gan y rheiny a gafodd y fraint o weithio gydag o dros y blynyddoedd. Yna cyflwynodd Cyfarwyddwr IHC Gareth Evans ‘lyfr o atgofion’ a luniwyd gan gydweithwyr Mark, fel cofrodd o’i wasanaeth.
Rhoddodd Mark ganmoliaeth hael i’r staff a oedd wedi ei gynorthwyo i roi llawer o’i gynlluniau mewn lle – ac amlinellodd beth yr oedd hyn wedi ei olygu iddo.
Darllenwch fwy: Rydym yn gofyn am eich cymorth i helpu i gyfyngu ar ledaeniad feirysau - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Dywedodd: “Cleifion. Yr oedd bob amser, bob amser am y cleifion. Dyna pam yr ymunais (â’r Bwrdd Iechyd) yr holl flynyddoedd yn ôl. Cefais amser bendigedig yn gweithio o fewn nyrsio. Rhoddais y gorau i’m cofrestriad eleni a dyna’r peth anoddaf rwyf erioed wedi ei wneud.
“Gobeithiaf dros y cyfnod hwnnw fod fy angerdd i ddatrys problemau wedi cynorthwyo pobl yn y gynulleidfa hon. Fe’i gwnaethoch mor rhwydd. Alla i ddim esbonio pa mor hawdd yw dod i’r gwaith bob dydd yn gwybod bod pobl, sydd mor angerddol ynghylch yr hyn rydych eisiau ei wneud a’r hyn rydych eisiau ei gyflawni.
“Rydym yn y fath sefyllfa freintiedig a gobeithiaf y bydd y neges yma’n parhau, gyda’n holl gydweithwyr. Y rheiny sydd eto i ddechrau, y rheiny sydd hanner ffordd drwy eu gyrfaoedd a’r rheiny sy’n cyrraedd diwedd eu gyrfaoedd. Bu’n fraint.”
Yn ystod ei yrfa yn y GIG bu’n arwain cyfarwyddwyr mewn llawfeddygaeth, meddygaeth, yn ogystal ag orthopedeg a thrawma. Bu’n swyddog arweiniol cynllunio ar gyfer argyfwng, yn rheolwr adrannol cyffredinol mewn gofal sylfaenol, meddygaeth gymunedol ac arbenigol – ac fe gynorthwyodd y Drefn Reoli Aur am gyfnod yn ystod pandemig y Covid hyd yn oed.
Darllenwch fwy: Ennill dwy wobr yng Ngwobrau Nyrs y Flwyddyn Cymru - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Roedd yn enillydd rhanbarthol Gwobr Gofal Iechyd Prydain yn 1992 am ei “ymroddiad anhunanol i ddyletswydd fel aelod o’r gymuned ofalgar”. Roedd yr ymroddiad yna i ddyletswydd hefyd yn nodwedd o’i yrfa 29 mlynedd yn y Fyddin.
Fe’i comisiynwyd i Gorfflu Nyrsio Byddin Frenhinol y Frenhines Alexandra fel Swyddog Nyrsio o fewn y Fyddin Diriogaethol, yn 1995 yn Ysbyty Maes 208 (Lerpwl) fel Capten. Mae wedi gwasanaethu fel swyddog ar gyfer hyfforddiant, wedi cymhwyso fel swyddog hyfforddi ar gyfer amddiffyn cemegol, biolegol, radiolegol a niwclear, yn ogystal ag astudio gofal iechyd dyngarol a lleddfu trychineb.
Mae Mark wedi ei hyfforddi mewn cynllunio gweithrediadau milwrol ar y cyd ac wedi cymhwyso mewn rheolaeth a staffio canolradd ac uwch. Fel rhan o’i hyfforddiant maes milwrol, dringodd Fynydd Kilimanjaro a theithiodd mewn canŵ i lawr Afon Volta yn Ghana.
Ar wasanaeth gweithredol, roedd yn arweinydd tîm ward cleifion mewnol ysbyty maes yn Irac ac yn uwch feistr ward gydag Ysbyty Maes 208 yn Affganistan.
Rhannodd Mark un mantra syml terfynol. Dywedodd: “Daliwch i ddod i mewn i’r gwaith bob dydd a gwnewch eich gorau.”
Mae’r teyrngedau niferus a dalwyd iddo ar ei ddiwrnod olaf, yn dangos nad dim ond rhywbeth a ddywedai ydoedd - roedd yn byw hyn.
Dilynwch newyddion diweddaraf y Bwrdd Iechyd trwy gofrestru ar gyfer ein rhestr bostio Sign up (es-mail.co.uk)