07.01.2024
Daeth cynrychiolwyr o dri chorff cyhoeddus at ei gilydd i gondemnio cyrch ymddygiad gwrthgymdeithasol gan bobl ifanc yn erbyn ysbyty lleol.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Heddlu Gogledd Cymru yn cydweithio ar ôl i bobl ifanc gam-drin staff nyrsio yn eiriol, creu gorlifoedd yn yr ysbyty a thorri i mewn i swyddfa contractwr yn Ysbyty Cyffredinol Llandudno dros yr ychydig wythnosau diwethaf.
Mewn digwyddiad arall, cafodd matres ei rhoi ar dân yn fwriadol mewn ystafell storio yn yr ysbyty a bu'n rhaid galw ar Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru i sicrhau bod y safle'n ddiogel.
Yr wythnos diwethaf, daeth nyrsys i gysylltiad â cham-drin geiriol gan bobl ifanc a oedd yn loetran o amgylch yr Uned Mân Anafiadau (MIU). Ar adeg y digwyddiad, buont yn delio â chlaf a oedd yn ddifrifol wael ac yr oedd angen ei gludo ar frys mewn ambiwlans brys i'r safle acíwt.
Darllenwch fwy: Ysbyty Cyffredinol Llandudno - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Mae pobl ifanc wedi bod yn mynd i mewn i'r ysbyty'n fynych ar ôl oriau gwaith arferol, ac mae hyn wedi arwain at reolwyr yn ysbyty'n cyfyngu ar fynediad i'r safle trwy'r Uned Mân Anafiadau (MIU) a phrif fynedfeydd yr ysbyty'n unig. Mae staff diogelwch wedi'u cyflogi erbyn hyn i oruchwylio'r safle y tu allan i oriau.
Dywedodd Nichola Hughes, pennaeth gofal canolraddol a nyrsio arbenigol Cymuned Iechyd Integredig Ardal y Canol BIPBC: "Nid oes i'r ymddygiad afresymol a gwrthgymdeithasol hwn unrhyw le mewn ysbyty neu'n agos at ysbyty. Mae ein staff yn ceisio gofalu am bobl ac mae'n gwbl annerbyniol bod disgwyl iddynt oddef hyn. Mae eu swyddi'n ddigon anodd heb orfod gwrthsefyll cam-drin geiriol a difrod troseddol.
"Rwy'n annog ein cymuned i roi gwybod am unrhyw weithgarwch amheus y byddant yn ei weld o amgylch Ysbyty Llandudno ac i'n helpu i gadw ein cymuned yn ddiogel."
Mewn achos arall o ymddygiad afresymol, gwnaeth un unigolyn ifanc dorri potel o win y tu allan i'r Uned Mân Anafiadau, gan dorri ei law yn y broses. Yna, gwnaeth rwbio gwaed dros y ffenestri a'r waliau yn yr uned, gan wrthod triniaeth gan staff yn y lle cyntaf.
Ar wahân i'r risg i'r unigolyn ifanc, roedd yn golygu bod nyrsys a gweithwyr cymorth yn gorfod glanhau risg o haint ddifrifol, yn hytrach na delio â chleifion sâl a chleifion sydd wedi'u hanafu.
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi bod yn gweithio'n agos gyda'r Bwrdd Iechyd i sicrhau bod staff yn ddiogel ac i fynd i'r afael ag achosion o ymddygiad gwael ar y safle.
Dywedodd yr Arolygydd Rhanbarthol Catherine Walker: "Dros y misoedd diwethaf, bu'n rhaid i'n heddweision fynd i'r ysbyty dro ar ôl tro er mwyn delio â digwyddiadau diangen, sydd nid yn unig yn peryglu cleifion a gweithwyr iechyd proffesiynol, ond sydd hefyd yn dargyfeirio ein hadnoddau oddi wrth feysydd eraill.
"Byddwn yn annog rhieni a gofalwyr pobl ifanc i sicrhau eu bod yn gwybod lle mae eu plant ac i roi ar ddeall iddynt nad yw'r ymddygiad hwn yn dderbyniol. Ni fyddwn yn goddef digwyddiadau o'r natur hon ac yn y dyfodol, byddwn yn delio â'r holl sefyllfaoedd o'r fath gan gymryd camau cadarn."
Mae cydweithwyr yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, sy'n gweithio ochr yn ochr â'r Bwrdd Iechyd ar draws y gymuned, hefyd yn ymwybodol o'r materion y mae staff ar safle'r ysbyty'n eu hwynebu a gwnaethant feirniadu gweithredoedd lleiafrif bach o bobl ifanc.
Dywedodd y Cynghorydd Geoff Stewart, aelod cabinet dros Gymdogaethau a'r Amgylchedd, gan gynnwys Diogelwch Cymunedol yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy: "Rwy'n siomedig o glywed am y digwyddiadau yn Ysbyty Llandudno. Ni ddylai neb, yn enwedig gweithwyr y sector cyhoeddus sy'n darparu gwasanaethau hollbwysig orfod goddef camdriniaeth ac ymddygiad gwrthgymdeithasol o'r fath."
Mae'r Bwrdd Iechyd wedi pwysleisio ei ymagwedd dim goddefgarwch o'r newydd tuag at gamdriniaeth, bygythiadau, ymosodedd a difrod troseddol yn ei ysbytai ac mae'n ymrwymedig i ddefnyddio grym llawn y gyfraith i atal ymddygiad o'r fath lle bo'n briodol.
Dilynwch newyddion diweddaraf y Bwrdd Iechyd trwy gofrestru ar gyfer ein rhestr bostio Sign up (es-mail.co.uk)