13 Awst, 2024
Llawfeddyg yn Ysbyty Gwynedd yw'r cyntaf yng Nghymru i gwblhau rhaglen hyfforddiant unigryw ar lawdriniaethau pen-glin drwy gymorth robot
Ers i Ysbyty Gwynedd fod yr ysbyty cyntaf yng Nghymru i berfformio llawdriniaethau robotig i osod pen-glin newydd yn 2021, mae llawfeddygaeth orthopedig drwy gymorth robot wedi mynd o nerth i nerth.
Eleni, Ysbyty Gwynedd oedd canolfan hyfforddi robotig gyntaf y GIG yng Nghymru i hyfforddi llawfeddygon eraill ar lawdriniaethau pen-glin drwy gymorth robot. Rhoddodd Zimmer Biomet sy’n darparu’r system ROSA gyfle i greu rôl Cymrodoriaeth Robotig ar gyfer y Glun a'r Pen-glin sy’n rhoi cyfle i uwch lawfeddygon weithio gyda’r Bwrdd Iechyd am chwe mis a hyfforddi mewn roboteg cyn gwneud cais am swydd Meddyg Ymgynghorol.
Mr Nishu Gupta, o Wlad yr Haf, oedd y llawfeddyg cyntaf i gwblhau'r rhaglen gymrodoriaeth chwe mis, ac mae wedi canmol y tîm am y gefnogaeth a'r hyfforddiant a gafodd.
Dywedodd: “Nid oes llawer o gyfleoedd yn y DU ar gyfer cymrodoriaethau fel hyn, felly roedd hi'n wych cael fy nerbyn ar y rhaglen. Mae wedi fy helpu i ddatblygu sgiliau newydd cyn gwneud cais am fy swydd gyntaf fel Meddyg Ymgynghorol.
“Roedd hi'n fraint gweithio ochr yn ochr â Mr Muthu Ganapathi, Mr Agustin Soler a Mr Koldo Azurza i ddysgu ganddynt a gweld y manteision y gall llawdriniaeth drwy gymorth robot ei gynnig i gleifion.
“Cefais gyfle i ddysgu a chynnal llawdriniaethau cymalau drwy gymorth robot yn annibynnol. Mae'r cysyniad o deilwra’r gwaith o osod cymal newydd i’r unigolyn wedi bod yn agoriad llygaid i mi, a byddaf nawr yn gallu defnyddio hyn ar gyfer fy nghleifion yn y dyfodol.
“Yn ogystal â chymrodoriaeth ragorol, fe gefais i hefyd fwynhau cefn gwlad hardd Gogledd Cymru am chwe mis. Fe wnes i ddringo’r Wyddfa am y tro cyntaf a mwynhau’r traethau hardd – mae wir yn rhan anhygoel o’r byd.”
Dywedodd y Llawfeddyg Orthopedig Ymgynghorol, Mr Ganapathi ei fod ef a'i gydweithwyr yn falch o lwyddiant y gymrodoriaeth hyd yn hyn a'u bod bellach wedi croesawu eu hail lawfeddyg ar y rhaglen.
Dywedodd: “Yn ystod y gymrodoriaeth mae’r llawfeddyg yn gweithio’n agos gyda fi a’m dau gydweithiwr, Mr Soler a Mr Azurza. Daw i gysylltiad ag ystod eang o dechnegau gosod clun a phen-glin newydd, arthroplasti’r glun sy’n creu archoll mor fach â phosibl, llawdriniaeth i osod rhan o ben-glin ac arthroplasti llawdriniaeth ddydd ac wrth gwrs, llawdriniaeth ar y pen-glin drwy gymorth robot gan ddefnyddio system ROSA.
“Fe wnaeth Mr Gupta hefyd gychwyn nifer o brosiectau ymchwil a fydd yn cael eu parhau gan y cymrawd nesaf sydd bellach wedi dechrau gyda ni. Gobeithiwn y bydd profiad Mr Gupta fel cymrawd o gymorth iddo yn ei yrfa fel Llawfeddyg Orthopedig Ymgynghorol. Dymunwn bob llwyddiant iddo.
“Rydym ni’n falch iawn o gynnig y rhaglen hon yn yr ysbyty. Dim ond llond llaw o gymrodoriaethau fel hyn sydd ar gael yn y DU felly, mae o bwys mawr i ni ein bod yn gallu cynnig rhaglen mor uchel ei pharch.”