02/10/2024
Gan Pontio
Mae BLAS, Pontio yn cyflwyno noson rhannu fis Hydref, MonologAYE y Gwasanaeth Iechyd Genedlaethol (GIG) sy’n ddilyniant o brosiect cyntaf MonologAYE yn 2023. Dyma gyfle i glywed straeon personol a phroffesiynol unigolion sy’n gweithio o fewn y Gwasanaeth Iechyd drwy eu monologau personol.
Yn dilyn llwyddiant prosiect cyntaf MonologAYE, a roddodd lwyfan i leisiau dinas Bangor, dros y chwe mis diwethaf wedi cydweithio gyda chwe aelod o staff y GIG a’u mentoriaid. Y cyfranogion o’r GIG yw Alwyn Joyce, Briall Gwilym, Dr Naa Adjeley Mizna Barnor, Erin Bryfdir, Rhodri Thompson a Siwan Esyllt Mathias. Mae’r cyfranogwyr yn amrywio mewn swyddi o fewn y GIG gyda meddyg teulu, nyrsys o wahanol adrannau gan gynnwys A&E a bydwraig. Mae’r prosiect yn taflu goleuni ar eu profiadau personol o weithio yn y GIG a’u llwyfannu ar lwyfan.
Fel rhan o’r prosiect mae’r cyfranogwyr oll yn cael mentor proffesiynol er mwyn eu harwain drwy’r broses o greu ac ysgrifennu monolog. Y prif fentor a chyfarwyddwr yw Manon Gwynant a fu’n rhan o broject cyntaf MonologAYE, gyda Gareth Evans-Jones, Manon Steffan Ros, Dr Charlotte Williams, Mali Elwy a Gwion Aled Williams yn paru gyda’r cyfranogion fel mentoriaid.
Dywedodd Mared Huws, Cydlynydd BLAS, ‘Dyma gyfle i glywed straeon sy’n llawn chwerthin ac emosiwn gyda’r dehongliadau yn arddangos balchder ac ymroddiad. Cawn fewnwelediad unigryw i fywyd y bobl sy’n cadw ein gwasanaethau iechyd i fynd ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at glywed y gwaith yn y noson rhannu.’
Ychwanegodd Manon Gwynant, Prif Fentor MonologAYE, ‘Mae’r holl broses yma o greu monologau mor bersonol ac mae wedi bod yn fraint cael cydweithio gyda’r cyfranogwyr i ysgrifennu monologau gonest, ffraeth a doniol ar adegau! Mae’n fewnwelediad arbennig i weithlu’r Gwasanaeth Iechyd.’
Bydd noson rhannu MonologAYE GIG, Nos Sadwrn 12 Hydref am 7pm yn Stiwdio Pontio dan arweiniad Dr Manon Wyn Williams. Bydd cyfle i glywed y monologau a sgyrsiau gyda’r cyfranogwyr a’u menotriaid. Mae’n argoeli i fod yn noson emosiynol ac ysbrydoledig sy’n rhoi llais i’r gweithwyr hynny sy’n rhoi cymaint er lles ein hiechyd.
yn cyflwyno noson rhannu fis Hydref, MonologAYE y Gwasanaeth Iechyd Genedlaethol (GIG) sy’n ddilyniant o brosiect cyntaf MonologAYE yn 2023. Dyma gyfle i glywed straeon personol a phroffesiynol unigolion sy’n gweithio o fewn y Gwasanaeth Iechyd drwy eu monologau personol.