08/08/2024
Mae staff yn Ysbyty Maelor Wrecsam wedi ffurfio côr lles newydd ac mae'n derbyn ymateb aruthrol gan staff.
Cafodd Côr Lles Ysbyty Maelor ei ffurfio ym mis Mai gan Rebecca Jones, Metron yn y Gyfarwyddiaeth Feddygol a Virma Pebeyre, Rheolwr Ward Tywysog Cymru. Maent hefyd wedi ymuno ag Aled Phillips, Arweinydd côr meibion Johns Boys, sydd wedi'u lleoli yn Wrecsam ac sydd wedi ymddangos yn ddiweddar ar Britain's got Talent a'r Royal Variety Performance.
Mae Aled yn helpu'r Côr Lles i baratoi ar gyfer perfformiadau amrywiol ar draws Gogledd Cymru, ac mae'n cefnogi'r côr wrth ganu mewn digwyddiadau elusennol lleol.
Dywedodd Rebecca: "Rydym ni wedi cael ymateb anhygoel gan y staff yn Ysbyty Maelor Wrecsam ac mae'r côr yn gweithio'n galed i hyrwyddo lles ac iechyd meddwl staff ar draws y Bwrdd Iechyd.
"Mae'r ymarferion yn cael eu cynnal bob pythefnos yn yr ysbyty ac mae staff wedi dangos ymrwymiad o ran rhoi o'u hamser eu hunain ar ôl eu sifftiau. Mae'r ymateb positif rydym ni wedi'i gael gan bawb sydd wedi ymuno wedi bod yn aruthrol, ac o fewn dim o dro, yr adborth gan aelodau'r côr yw bod y côr wedi gwella eu lles meddyliol yn sylweddol."
Ychwanegodd Virma: "Megis dechrau mae ein taith ni. Y gobaith a'r bwriad yw y bydd y côr yn parhau i esblygu gan arwain at ragor o gyfleoedd i bob aelod gymryd rhan mewn perfformiadau yn y dyfodol ac i wella lles pob un aelod yn barhaus."
Erbyn hyn, mae gan y côr dros 40 o aelodau sy'n dod o'r holl adrannau ar draws yr ysbyty gan gynnwys yr holl weithwyr gofal iechyd proffesiynol.
Ar ddechrau'r flwyddyn, roedd gan Aled aelod o'i deulu yn Ysbyty Maelor Wrecsam a thros gyfnod o fisoedd, byddai'n ymweld â'r ysbyty bob dydd.
Dywedodd Aled: "Pan ofynnwyd i mi, roeddwn yn fwy na pharod i helpu i arwain ymarferion y côr. Dyna'r peth lleiaf y gallwn ei wneud ar ôl gweld yn uniongyrchol y gwaith anhygoel y mae'r holl staff yn ei wneud yn yr ysbyty.
"Mae'n anhygoel gweld y côr yn ehangu ac yn magu hyder. Maen nhw'n cael hwyl eithriadol arni, ac mae eu talent naturiol a'u brwdfrydedd wedi gwneud argraff fawr arnaf. Rydw i'n edrych ymlaen yn fawr at eu clywed yn perfformio'n fyw o flaen cynulleidfa."