17 Mehefin, 2024
Mae claf arennol ar fin mynd ar ei gwyliau cyntaf ers pymtheg mlynedd ar ôl derbyn peiriant dialysis symudol mae’n gallu cludo'n hawdd yng nghefn ei char.
Mae Ceri Ann Granton, o Frynsiencyn, Ynys Môn, wedi derbyn triniaeth dialysis ers iddi fod yn 18 oed ar ôl cael diagnosis o glomerwlosclerosis ffocal a segmentol (FSGS) yn ei harddegau, sy’n glefyd a all arwain at fethiant yr arennau, a dialysis neu drawsblaniad aren yw’r unig ffyrdd i drin y clefyd.
Yn anffodus, mae dau gynnig ar drawsblannu aren wedi bod yn aflwyddiannus i Ceri ac mae bellach ar ddialysis parhaol. Mae wedi gorfod ymweld ag Uned Arennol Ysbyty Gwynedd bedair gwaith yr wythnos ers nifer o flynyddoedd.
Er mwyn gwneud bywyd yn haws i Ceri, mae tîm yr Uned Arennol wedi sicrhau Uned Dialysis Symudol Physidia S3 iddi, mae hwn nid yn unig yn rhoi dialysis iddi yn ei chartref, ond hefyd yn ei galluogi i fynd â’r peiriant gyda hi os yw am fynd i ffwrdd. Dyfais gyfathrebu yw monitor y peiriant - mae paramedrau dialysis yn cael eu storio ar y tabled ac yn cael eu trosglwyddo i'r uned dialysis ar ôl pob sesiwn. Gall y tîm therapi cartref ddilyn dialysis Ceri a’i chynorthwyo os oes angen gwneud.
Mae Ceri, 39, yn gobeithio y bydd y ddyfais yn ei helpu i fyw bywyd mwy normal o hyn ymlaen, dywedodd: “Ers tua 20 mlynedd rydw i wedi bod yn derbyn dialysis, am yr 16 mlynedd cyntaf cefais ddialysis hemo yn fy nghartref ond yn anffodus nid oedd hi’n bosib parhau â hyn oherwydd fy mod i wedi mynd yn rhy sâl, felly ers hynny rwyf wedi gorfod mynd i'r uned yn Ysbyty Gwynedd. Mae hyn wedi cymryd drosodd rhan fawr iawn o fy mywyd ac wedi fy atal rhag byw bywyd normal.
“Rydw i mor ddiolchgar i’r tîm sydd wedi rhoi’r peiriant newydd hwn i mi, byddaf yn gallu mynd â hwn gyda mi os ydw i eisiau mynd i ffwrdd ac mae’n caniatáu i mi gael dialysis gartref, rhywbeth na feddyliais erioed y byddwn yn gallu gwneud eto.
“Dydw i ddim wedi bod ar wyliau o gwbl ers 15 mlynedd, a hynny oherwydd fy mod wedi cael cyfnodau pan roeddwn yn rhy sâl a hefyd oherwydd mod i’n teimlo cryn dipyn o straen oherwydd roeddwn yn gorfod mynd i ysbyty arall os oeddwn i oddi cartref, er mwyn cael dialysis.
“Bydd y peiriant hwn yn rhoi cymaint o hyblygrwydd i mi, oherwydd gallaf ddewis pryd yn union yn ystod y dydd i gael dialysis ac yn gallu mynd â’r peiriant i ffwrdd gyda mi hefyd.
“Rwy’n bwriadu mynd ar wyliau teuluol i Ardal y Llynnoedd eleni ac mae’n rhyddhad mawr gwybod bod y peiriant hwn y gallaf fynd ag ef gyda mi a pheidio â gorfod poeni am wneud cynlluniau i fynd i’r ysbyty tra byddaf i ffwrdd, gyda mi.”
Mae Ceri, y cyntaf yng Nghymru i ddefnyddio’r math yma o beiriant, wedi cael cefnogaeth yn ei chartref gan y Nyrsys Therapi Cartref felly mae hi’n gwbl hyderus wrth ddefnyddio’r offer yn annibynnol.
Dywedodd y Rheolwr Dialysis Cartref Dros Dro, Sara Baker: “Rwyf wedi adnabod Ceri ers tua 22 mlynedd bellach ac mae’n teimlo’n fwy fel ffrind na chlaf i mi.
“Mae’n wych ei gweld yn cael ei dialysis yn ei chartref, a gobeithio y bydd yn mynd ar wyliau eleni – bydd yn wych ei gweld hi’n cael ei hannibyniaeth yn ôl.”