11 Rhagfyr 2024
Wrth i Storm Darragh ddangos ei ffyrnigrwydd trwy wyntoedd o fwy na 90mya a glaw trwm dros y penwythnos, bu'r gymuned a'r gwasanaeth gofal iechyd yn wynebu heriau digynsail.
Bu staff yn wynebu llifogydd ar y ffyrdd, toriadau pŵer, ac amodau teithio peryglus ar eu teithiau rheolaidd i'r gwaith. Er hynny, bu eu hymrwymiad i'w cleifion heb ei ail. Gwnaeth staff bopeth o fewn eu gallu i gyrraedd eu gweithleoedd, gan frwydro yn erbyn yr amodau erchyll i sicrhau eu bod yno ar gyfer y rhai mewn angen.
Gwnaeth effaith y storm amharu ar nifer o wasanaethau rheolaidd, roedd yr Uned Mân Anafiadau yn Ysbyty Cymuned Yr Wyddgrug yn un gwasanaeth yr effeithiwyd arno gan lifogydd.
Roedd y gwyntoedd cryfion peryglus yn golygu bod angen gohirio dialysis achubol yn Ysbyty Alltwen ger Porthmadog ar ôl i'r gwyntoedd mawr ddifrodi to'r adeilad.
Yn wyneb yr heriau hyn, gwnaeth y tîm arennol ddangos ymroddiad rhyfeddol i sicrhau bod modd i gleifion barhau i dderbyn eu dialysis. Er gwaethaf y tywydd peryglus, gwnaethant gydlynu gyda'r gwasanaethau brys i sicrhau bod modd i bob claf dderbyn y driniaeth angenrheidiol.
Cafodd pob un o'r 16 o gleifion eu trosglwyddo i Ysbyty Gwynedd er mwyn derbyn eu dialysis.
Dywedodd Sarah Hirst-Williams, Metron Arennol: "Diolch i ymdrechion y tîm arennol, DaVita a'r tîm ystadau dros y penwythnos, gwnaeth pob un o'n cleifion dderbyn eu dialysis.
"Rydw i'n falch iawn o bawb, nid oedd yn sefyllfa hawdd i ddelio â hi ond roedd ein cleifion ar flaen meddyliau pawb."
Un o'r cleifion hynny oedd Mike Newton o Ddolgellau yr oedd disgwyl iddo dderbyn ei driniaeth dialysis ddydd Sadwrn ond nad oedd yn gallu cyrraedd Ysbyty Alltwen gan fod ffyrdd wedi'u cau.
Dywedodd: "Ar fore dydd Sadwrn, roedd disgwyl i mi fod yn Ysbyty Alltwen ar gyfer dialysis ond roedd y storm wedi achosi llifogydd difrifol a'r angen i gau'r ffyrdd felly fyddwn i byth wedi cyrraedd yno mewn pryd i dderbyn fy nhriniaeth lawn.
"Gwnaeth y tîm arennol drefnu cludiant i mi'n ddi-oed gan anfon cerbyd 4x4 a aeth â mi i Ysbyty Gwynedd fel bod modd i mi dderbyn fy nhriniaeth.
"Roedd y cyfan yn wych, rydw i mor ddiolchgar o gael tîm fel yna'n gofalu amdana' i - fe aethant yr ail filltir yng ngwir ystyr y gair.
Mae cleifion yn parhau i dderbyn eu triniaeth yn Ysbyty Gwynedd tra bo'r gwaith parhaus i drwsio'r difrod yn Ysbyty Gwynedd yn cael ei gwblhau.
Dywedodd Dr Abdulfattah Alejmi, Neffrolegydd Ymgynghorol yn Ysbyty Gwynedd: "Gwaeth y timau gryn dipyn o waith dros y penwythnos er mwyn sicrhau bod modd i'n cleifion dderbyn eu dialysis.
"Gwnaeth llawer o'r nyrsys weithio oriau ychwanegol dros y penwythnos gan ddiwygio patrymau eu sifftiau fel y byddai cleifion a fyddai'n derbyn eu dialysis yn ystod y dydd yn Ysbyty Alltwen fel arfer yn gallu dod atom ar y nos Lun i dderbyn eu dialysis.
"Rhaid sôn yn arbennig am ein nyrsys arennol Kathy T, Ritchard, Shirley, Alaw ac Einir sydd wedi gweithio oriau ychwanegol ddydd Sadwrn er mwyn sicrhau bod popeth yn cael ei drefnu ar gyfer ein cleifion."
Dywedodd Paul Andrew, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Cymuned Iechyd Integredig y Gorllewin ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: "Hoffwn ddiolch o galon i bob un o'n staff ar draws y Bwrdd Iechyd a fu'n gweithio'n ddiflino yn ystod y storm er mwyn sicrhau bod modd i'n holl gleifion, y mae llawer o'r rhain yn byw yn y rhannau mwyaf gwledig yng Ngogledd Cymru, yn derbyn y gofal yr oedd arnynt ei angen yn yr amgylchiadau mwyaf heriol."