Neidio i'r prif gynnwy

Adran Achosion Brys Ysbyty Gwynedd yn cael eu graddio fel y lle gorau i hyfforddi yng Nghymru gan feddygon iau

25 Hydref 2024

Mae meddygon dan hyfforddiant wedi graddio Adran Achosion Brys Ysbyty Gwynedd fel y lle gorau i hyfforddi yng Nghymru am yr ail flwyddyn yn olynol.

Mae canlyniadau o'r Arolwg Hyfforddiant Cenedlaethol gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC) yn ddiweddar yn dangos bod mwy na 90% o feddygon dan hyfforddiant yn fodlon ar ansawdd yr oruchwyliaeth glinigol, y profiad a’r addysg a gânt yn yr Adran Achosion Brys.

Mae'r GMC yn cynnal arolwg hyfforddiant blynyddol bob blwyddyn er mwyn cael darlun cynhwysfawr o brofiadau meddygon sydd o dan hyfforddiant a hyfforddwyr ar draws y DU.

Dywedodd Dr Nikki Sommers, Meddyg Ymgynghorol mewn Meddygaeth Frys ac Arweinydd Clinigol yn Adran Achosion Brys yr ysbyty: "Rydym yn gweld gwerth yng ngwaith tîm, trugaredd a rhagoriaeth yn ein Hadran Achosion Brys ac mae'n hyfryd derbyn adborth gwych am yr ail flwyddyn yn olynol ein bod yn gwneud pethau'n gywir er gwaethaf yr heriau rydym yn eu hwynebu.

"Rydym yn hynod falch o gael ein graddio fel y gorau yng Nghymru, ac o fod yn y pumed safle, am foddhad hyfforddeion yn gyffredinol.

"Mae addysgu ac addysg wrth wraidd popeth rydym yn ei wneud yma - pan fo gennych feddygon hapus ac sy'n derbyn cefnogaeth, maen nhw'n rhoi gofal gwell i gleifion.

"Mae gennym dîm anhygoel yma sy'n rhoi cefnogaeth wych i'n hyfforddeion, o'n staff gweinyddol, nyrsys a meddygon ymgynghorol sydd oll yn gwneud yn siŵr eu bod yn teimlo bod croeso iddyn nhw a'u bod yn cael cefnogaeth yn ystod eu cyfnod yma."

Cyrhaeddodd Dr Jordan Cazier, Meddyg Preswyl, Adran Achosion Brys Ysbyty Gwynedd ddwy flynedd yn ôl ac mae wedi canmol yr awyrgylch cyfeillgar yn yr adran a'r gefnogaeth gan ei huwch gydweithwyr.

Dywedodd: "Nid yw'n syndod bod yr adran wedi cael ei graddio fel yr un gorau yng Nghymru fel y lle gorau i hyfforddi ar gyfer yr ail flwyddyn yn olynol.

"Cyrhaeddais ddwy flynedd yn ôl, doedd dim disgwyl i mi fod yma gyhyd ond dewisais aros gan fod yr adran yn lle mor wych i weithio.

"Mae gen i gydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith, rwy'n cael cymorth gwych gan fy nghydweithwyr yn cynnwys addysgu a hefyd gymorth emosiynol pan fo angen. Mae hefyd yn lle perffaith i fyw, mae pwyslais ar bethau awyr agored yn yr adran felly rwy'n mwynhau gweithio yn rhywle lle galla' i fwynhau bod ym myd natur a'r mynyddoedd."

Mae Ysbyty Glan Clwyd ac Ysbyty Maelor Wrecsam hefyd wedi derbyn canlyniadau gan eu hyfforddeion ac mae dros 70 y cant o'u meddygon dan hyfforddiant wedi rhoi adborth positif am eu profiad yno.