Chwilio am y teimlad o fod ar wyliau bob dydd?
Wedi cael llond bol ar deithio'n ôl a blaen yn ddyddiol ar ffyrdd prysur a thrafnidiaeth gyhoeddus?
Chwilio am ffordd o fyw mwy hamddenol lle gall eich teulu anadlu, tyfu a chwarae?
Ydych chi'n hel atgofion am eich gwyliau olaf yng ngogledd orllewin Cymru, yn agos at natur, ymhlith mynyddoedd godidog, traethau hardd a chestyll trawiadol?
Gallwch wneud i bob dydd deimlo fel gwyliau os ydych yn dod i weithio gyda ni yn Ardal y Gorllewin Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Mae gennym nifer o swyddi ar gael yng ngogledd orllewin Cymru ar draws siroedd Ynys Môn a Gwynedd. O Borthladd Caergybi ar Ynys Môn i dref glan môr Tywyn yn ne Gwynedd ac ym mhobman yn y canol. Rydym yn dymuno penodi porthorion, gweithwyr domestig, gweithwyr cymorth gofal iechyd, nyrsys, podiatryddion, therapyddion iaith a lleferydd, therapyddion galwedigaethol, ffisiotherapyddion, dietegwyr, technegwyr fferyllol, fferyllwyr, meddygon teulu, meddygon a llawer mwy.
Os ydych yn chwilio am olygfeydd godidog, mynediad at natur a'r awyr agored ond yn dal i allu teithio i ddinasoedd fel Caer (awr i ffwrdd) Manceinion a Lerpwl (tua 1.5 awr i ffwrdd) yn hawdd, diwylliant lleol bywiog ac ymdeimlad gwych o gymuned, gogledd orllewin Cymru yw'r lle i i chi. Mae gennym dros 300 milltir o arfordir anhygoel a Pharc Cenedlaethol Eryri sef y mwyaf yng Nghymru sy'n 823 milltir sgwâr, sy'n cynnwys 9 cadwyn o fynyddoedd a mynydd uchaf Cymru a Lloegr, Yr Wyddfa, sydd dros 3000 troedfedd (1085m) o uchder. Hefyd, yma mae 5 o 23 o leoliadau Awyr Dywyll Cymru.
Mae ein swyddi presennol ar gael yma. Os hoffech ystyried gweithio yng ngogledd orllewin Cymru a hoffech gael gwybod mwy cysylltwch â'n hadran Gwasanaethau Pobl ar 03000 850091 neu anfonwch e-bost