Rydym yn chwilio am aelodau o'r cyhoedd i ymuno â'n carfan bresennol o Reolwyr Cyswllt Ysbyty'r Ddeddf Iechyd Meddwl.
Nid yw Rheolwr Cyswllt Ysbyty yn "rheolwr" sy'n gyfrifol am gynnal ysbyty, mae'r rôl yn wirfoddol gan leygwyr sy'n cynnal gwrandawiadau i adolygu gofal, triniaeth a chadw cleifion sy'n cael eu cadw dan y Deddf Iechyd Meddwl. Yn seiliedig ar y dystiolaeth a ddarparwyd gan y rhai yn y rôl hon, gall claf gael ei rhyddhau o'i adrannau.
Nid oes angen sgiliau na gymwysterau penodol gan fod hyfforddiant yn cael ei ddarparu'n llawn. Byddem yn awgrymu bod gan bobl addas sgiliau cyfathrebu a phobl cryf gyda diddordeb mewn materion iechyd meddwl.
Mae ffi sesiynol ar gyfer y rôl hon ac nid yw oriau cytundebol wedi'u nodi.
Os oes gennych ddiddordeb yn y rôl hon ac yr hoffech gael rhagor o wybodaeth ac i gael ffurflen gais, cysylltwch â Wendy Lappin, Rheolwr Deddfwriaeth y Ddeddf Iechyd Meddwl drwy e-bost neu dros y ffôn .