Yn dilyn penodi Carol Shillabeer i rôl Prif Swyddog Gweithredol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn ddiweddar, mae Carol, ynghyd â’r Cadeirydd, Dyfed Edwards yn awyddus i sicrhau sefydlogrwydd drwy wneud penodiadau parhaol i swyddi yn y Tîm Gweithredol a’r Uwch Dimau a fydd yn llywio’r Bwrdd Iechyd i ddyfodol newydd cyffrous.
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yw’r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru ac rydym yn gwahodd arweinwyr tosturiol sydd â gweledigaeth, fel chi, i ymuno â’n tîm deinamig. Mae gennym ystod o swyddi gweithredol a swyddi uwch cyffrous a fydd nid yn unig yn eich herio a’ch grymuso ond hefyd yn eich galluogi i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i ddyfodol y Bwrdd Iechyd a lles ein cymunedau.
Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol
I gael rhagor o wybodaeth am y swydd hon, cliciwch yma
Cysylltwch
Will McAlpine
Ffon: 07554050236
E bost: will.mcalpine@gatenbysanderson.com or
Emma Pickup
Ffon: 07590 225470
E bost: emma.pickup@gatenbysanderson.com
Mae ein gwerthoedd a'n hymddygiadau'n diffinio sut rydym yn mynd i'r afael â'n gwaith a sut rydym yn trin y naill a'r llall. Mae'r fframwaith hwn yn berthnasol i'r holl staff yn BIPBC, ein cleifion, defnyddwyr gwasanaeth, ymwelwyr a phartneriaid. Trwy ddangos yr ymddygiadau hyn, gallwn lywio ein diwylliant er mwyn ein helpu i gyflawni ein gweledigaeth a'n hamcanion. Bydd hyn yn ei dro yn cael effaith bositif ar brofiad a chanlyniadau i'n cleifion, defnyddwyr gwasanaeth, lles staff a gwelliant parhaus.