Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg o'r Bwrdd Iechyd

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) yw Bwrdd Iechyd mwyaf y GIG yng Nghymru gyda throsiant o £2.1bn, ac mae'n cynnig cyfle cyffrous i arweinydd meddygol profiadol sydd â hanes o sicrhau effeithiolrwydd clinigol a diogelwch cleifion yn gyson ymuno â'n Bwrdd a’n tîm arwain Meddygol fel ein Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol newydd.

 

Nid dim ond arweinydd yw'r ymgeisydd delfrydol ar gyfer rôl Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol ond arweinydd trugarog a llawn gweledigaeth y mae ei werthoedd yn gyson â'n rhai ni. Fel aelod hollbwysig o'n tîm, byddwch yn adrodd yn uniongyrchol i'r Prif Swyddog Gweithredol ac yn cydweithio'n agos â'n dau Ddirprwy Gyfarwyddwr Meddygol Gweithredol a'n Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio a Bydwreigiaeth. 

Mae hwn yn gyfle unigryw i arweinydd clinigol profiadol sy'n ystyried y cam nesaf yn ei yrfa i ymuno â’n Bwrdd Iechyd sydd â gweithlu o fwy na 21,000 o aelodau o staff.

Prif gyfrifoldeb y Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol yw rhoi arweinyddiaeth feddygol fel bod canlyniadau iechyd y boblogaeth yn gwella. Bydd y Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol yn gyfrifol am arweinyddiaeth feddygol a deintyddol, meithrin, cymell a datblygu tîm o glinigwyr, er mwyn llywio’r gwaith o drawsnewid gwasanaethau ar draws cymuned gofal iechyd BIPBC.