Neidio i'r prif gynnwy

Strategaeth: Byw'n Iach, Aros yn Iach

Mae strategaeth hirdymor y Bwrdd Iechyd ar gyfer iechyd, lles a gofal iechyd, Byw'n Iach, Aros yn Iach, yn bwydo i mewn i ddatblygiad cynllun tair blynedd integredig 2022/25 ac mae'n darparu'r sail ar gyfer y cynllun gwasanaethau clinigol, sydd yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd.

Yn 2018, lluniwyd ein strategaeth hirdymor ar gyfer iechyd a lles, Byw’n Iach, Aros yn Iach, yn dilyn ymgysylltu helaeth â chleifion, gofalwyr a sefydliadau cymunedol, y Cyngor Iechyd Cymuned, sefydliadau partner eraill, a’n staff.

 

Yn ystod 2021, cynhaliwyd ymgysylltiad dilynol sylweddol gyda’r cyhoedd yng ngogledd Cymru i weld os oedd y nodau a’r egwyddorion yn dal yn berthnasol dair blynedd yn ddiweddarach ac yn sgil yr amgylchedd newydd oherwydd pandemig COVID-19. Roedd mwyafrif yr ymatebwyr yn cytuno bod nodau craidd y strategaeth yn dal yn berthnasol. Arweiniodd hyn at ddefnyddio’r dull ‘Cynllunio ar y Dudalen’ i gysylltu ein gwahanol strategaethau, ein gwerthoedd, a’r angen a’r ymrwymiad hollbwysig i weithio mewn partneriaeth ac i’w crynhoi i 5 Egwyddor Cynllunio.