Gweledigaeth y Bwrdd Iechyd yw creu Gogledd Cymru iachach sy'n cynnig y cyfleoedd gorau i bawb wireddu eu potensial yn llawn, gan leihau anghydraddoldebau iechyd. Mae hyn yn golygu y dylai pobl gogledd Cymru dros amser, brofi ansawdd bywyd gwell a byw yn hirach.
Nod y Bwrdd Iechyd yw darparu gofal rhagorol, sy'n golygu y byddwn yn canolbwyntio dros y tair blynedd nesaf ar ddatblygu rhwydwaith o wasanaethau rhagorol sy'n darparu gofal diogel, tosturiol ac effeithiol ar sail ar yr hyn sy'n bwysig i'n cleifion. Yn ychwanegol, byddwn yn sicrhau bod ein gwaith yn cyd-fynd â gweledigaeth hirdymor Llywodraeth Cymru ynghylch cyflawni ‘ymagwedd system gyfan at iechyd a gofal cymdeithasol’.
Mae ein nodau fel a ganlyn:
• Gwella iechyd a lles y boblogaeth trwy ganolbwyntio ar atal;
• Gwella profiad ac ansawdd gofal i unigolion a theuluoedd;
• Cyfoethogi lles, gallu ac ymgysylltiad y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol; a