Mae Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAMHS) yn cefnogi plant a phobl ifanc hyd at 18 mlwydd oed sy'n profi problemau iechyd meddwl. Rydym hefyd yn darparu hyfforddiant, cyngor a chefnogaeth i weithwyr proffesiynol eraill sy'n gweithio gyda phlant, pobl ifanc a'u teuluoedd. Mae ein gwasanaethau'n cynnwys:
Mae ein gwasanaethau wedi eu creu i gefnogi plant a phobl ifanc i gael cymorth yn gynnar. Gall hyn gynnwys darganfod beth sy’n digwydd drwy asesiad, a chynnig ymyriadau, gwybodaeth a chyngor. Rydym hefyd yn cefnogi Meddygon Teulu lleol ac eraill fel Gweithwyr Cymdeithasol, ac ysgolion a'u cynghori.
Yn y gymuned leol, gall timau ddarparu asesiadau iechyd meddwl ac amrywiaeth o therapïau i helpu gydag anghenion megis pryderon ac ofnau, hwyliau isel, trawma a phroblemau iechyd meddwl eraill. Weithiau, rydym yn cyfeirio pobl at wasanaethau eraill sydd fwy priodol i fodloni anghenion iechyd meddwl. Yn ogystal, rydym yn cynnig cymorth i bobl ifanc wrth iddynt wynebu'r broses bontio i wasanaethau oedolion os oes angen cymorth arnynt ar ôl iddynt droi’n 18 mlwydd oed.
Mae Gwasanaeth Pobl Ifanc Gogledd Cymru (NWAS) yn darparu gofal a thriniaeth naill ai yn yr ysbyty neu gartref i blant a phobl ifanc rhwng 12 a 18 mlwydd oed sydd angen cefnogaeth ddwys ar gyfer eu hiechyd meddwl.
Gallwn gynnig cymorth brys i helpu plant a phobl ifanc sy'n profi argyfwng dybryd. Rydym yn gweithio ochr yn ochr ag eraill i gynnig gwaith cydlynu, ymgynghori a hyfforddi i asiantaethau partner ynghylch gofal a thriniaeth i blant a phobl ifanc sy'n profi argyfwng.