Neidio i'r prif gynnwy

Ysbyty Glan Clwyd

Cyfeiriad: Ysbyty Glan Clwyd, Y Rhyl, Sir Ddinbych, LL18 5UJ
Ymholiadau ffôn cyffredinol: 03000 840 840

Gwasanaethau Ysbyty

Mae gwybodaeth am ein gwasanaethau ysbytai ar gael yma.

Cyfleusterau 

  • Siop a bar te Cyfeillion yr Ysbyty
  • Macmillan: Gwasanaethau Gwybodaeth a Chefnogaeth Canser (CISS)
  • Meysydd parcio ar y safle a llefydd parcio anabl
  • Ffreutur ac ystafell fwyta
  • Radio ysbyty
  • Peiriant twll yn y wal
  • Toiledau a chyfleusterau newid clytiau – toiledau ‘Changing Places’ achrededig 
  • Canolfan aml-ffydd

Gwybodaeth am Wardiau

Mae gwybodaeth a rhifau cyswllt ar gyfer wardiau Ysbyty Glan Clwyd ar gael yma. 

Ymweliadau ag Ysbytai

Mae gwybodaeth am ymweld â'n safleoedd ysbyty ar gael yma. 

Mae pob un o'n safleoedd ysbyty yng Ngogledd Cymru yn ddi-fwg, gallai unrhyw un sy'n cael ei ganfod yn torri'r gyfraith trwy ysmygu ar diroedd ysbytai wynebu dirwy o £100, y gellir ei gorfodi'n gyfreithiol.

Canslo eich apwyntiad ysbyty

Cysylltwch â ni cyn gynted â phosibl os na allwch ddod i'ch apwyntiad ysbyty.

Gwasanaeth Atgoffa am Apwyntiad Ysbyty

Cofrestrwch i wasanaeth atgoffa am apwyntiadau ysbyty i'ch helpu chi fel claf i gofio manylion eich apwyntiad. 

Gwybodaeth am ryddhau cleifion

Mae'r rhan fwyaf o gleifion yn dychwelyd adref yn syth ar ôl derbyn gofal yn un o'n hysbytai. Caiff hyn ei drafod o fewn 24 awr i'ch derbyn i'r ysbyty, mae rhagor o wybodaeth ar gael yma. 

Sut i gyrraedd yno

Gyrru: Gadewch yr A55 ar Gyffordd 25 a dilynwch arwyddion y cylchfannau ac ymunwch â Ffordd Rhuddlan. Parhewch ar y ffordd am oddeutu ½ milltir a throwch am dir yr ysbyty ar y gylchfan fach. Mae arwyddion am safleoedd parcio ymwelwyr a chleifion wedi eu lleoli ar ochr flaen a gogleddol y safle. 

Dyma fap o safle'r ysbyty

Trên: Mae’r ysbyty wedi’i leoli oddeutu 4 milltir o orsaf drenau’r Rhyl. Am wybodaeth ar deithio yno ar y trên, ewch i: Traveline Cymru

Bws: Mae gwasanaeth bws dyddiol a rheolaidd o'r Rhyl a nifer o drefi lleol eraill yn uniongyrchol i safle’r ysbyty. Am fwy o wybodaeth, ewch i: Traveline Cymru