Neidio i'r prif gynnwy

Cefnogaeth a chyngor i gleifion ac ymwelwyr

Gwasanaeth Cyngor a Chyswllt Cleifion (PALS)

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu’r gofal a’r driniaeth orau bosibl i bobl ar draws Gogledd Cymru. Rydym yn deall efallai na fydd pethau’n mynd yn ôl y disgwyl weithiau, a phan fydd hyn yn digwydd, rydym am sicrhau yr eir i’r afael â’ch pryderon yn brydlon ac yn briodol, gan roi’r cyfle inni unioni pethau. Mae gwybodaeth am dîm PALS ar gael yma.

Os ydych yn aros am weithred neu driniaeth

Mae adran bwrpasol ar y wefan hon sydd wedi'i hanelu at roi cymorth a gwybodaeth i bobl sy'n aros am apwyntiadau, llawdriniaeth a thriniaeth, yn ogystal â'r sawl sy'n gofalu amdanynt. Ein nod yw sicrhau eich bod yn teimlo eich bod yn cael eich cefnogi a'ch hysbysu trwy gydol eich taith fel claf tuag at iechyd gwell. 

Os ydych yn glaf sydd ar restr aros am driniaeth, neu'ch bod yn adnabod rhywun sydd angen cymorth tra byddant yn aros, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cymorth gyda Rhestrau Aros

Mae gwybodaeth am yr uchod i gyd a mwy ar gael yn yr Hunanofal wrth i chi baratoi ar gyfer triniaeth ar y wefan hon.