O 1 Mawrth 2021, bydd Rheoliadau Mangreoedd a Cherbydau Di-fwg (Cymru) 2020 yn dod i rym. Mae'r ddeddfwriaeth yn golygu y bydd gofyn i diroedd ysbyty a lleoliadau awyr agored eraill yng Nghymru fod yn ddi-fwg, yn ôl y gyfraith.
Fel Bwrdd Iechyd, mae gennym ddyletswydd i ddarparu amgylchedd iach ar gyfer ein staff, cleifion a'n hymwelwyr ac i'w hamddiffyn rhag mwg ail law tra byddant ar diroedd ein hysbytai.
Mae pob un o'n safleoedd ysbyty yng Ngogledd Cymru bellach yn ddi-fwg, gallai unrhyw un sy'n cael ei ganfod yn torri'r gyfraith trwy ysmygu ar diroedd ysbytai wynebu dirwy o £100, y gellir ei gorfodi'n gyfreithiol.