Nid ysbyty galw heibio yw Ysbyty Cymuned Glannau Dyfrdwy a dim ond cleifion sydd ag apwyntiad wedi’i drefnu a ddylai ei fynychu.
Mae’n bosibl y byddwch yn peri oedi i driniaeth hanfodol os byddwch chi’n mynychu gan nad oes gan yr ysbyty hwn yr un cyfleusterau neu staff ag sydd gan Unedau Mân Anafiadau ac Adrannau Achosion Brys.
Cysylltwch â GIG 111 Cymru i gael cyngor ac arweiniad ar ba leoliad ysbyty y dylech ei fynychu
Cyfeiriad: Plough Lane, Aston, Glannau Dyfrdwy, CH5 1XS
Rhif Ffôn: 03000 850 018
Mae gwybodaeth am ymweld â'n safleoedd ysbyty ar gael yma.
Mae pob un o'n safleoedd ysbyty yng Ngogledd Cymru yn ddi-fwg, gallai unrhyw un sy'n cael ei ganfod yn torri'r gyfraith trwy ysmygu ar diroedd ysbytai wynebu dirwy o £100, y gellir ei gorfodi'n gyfreithiol.
Ar y ffyrdd: Gadewch yr A494 yn Plough Inn, ar y gylchfan trowch i Plough Lane. Mae’r ysbyty ar y dde. I gael mwy o gyfarwyddiadau, ewch i streetmap.co.uk
Ar y trên: Dim gwasanaeth trên
Ar y bws: Gwasanaeth bws rheolaidd bob dydd. Am fwy o wybodaeth, ewch i traveline-cymru.info