Neidio i'r prif gynnwy

Ymweld â'r Ysbyty

Dywedodd Angela Wood, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio a Bydwreigiaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Wrth i wasanaethau iechyd a gofal wynebu pwysau parhaus ar draws Gogledd Cymru a’r wlad, mae’n rhaid i ni geisio cyfyngu ar ledaeniad firysau, fel y ffliw, Norofeirws a COVID-19, yn ein hysbytai dros y gaeaf”... cyngor yn llawn yma.

Canllawiau Llywodraeth Cymru yw y dylid cytuno i ymweliadau â phwrpas clir, yn seiliedig ar fuddiannau gorau'r claf neu'r defnyddiwr gwasanaeth, yn ogystal â lles yr ymwelydd. Fel Bwrdd Iechyd rydym yn parhau i adolygu trefniadau i ganiatáu ymweliadau i gleifion mewnol mewn modd gofalus a Covid ddiogel, gan nodi bod nifer yr achosion yn y Gymuned wedi'u lleihau.

Mae ein hysbytai yn hollol ddi-fwg: Gwybodaeth i ddiogelu ein cleifion, ein staff, a'n hymwelwyr rhag effeithiau niweidiol ysmygu.