Neidio i'r prif gynnwy

Dod â bwyd a diod i'r ysbytai: Canllawiau i ymwelwyr

Mae'r dudalen hon yn cael ei datblygu ar hyn o bryd.

Mae’r wybodaeth hon ar gael mewn print mawr, fformatau eraill, Saesneg ac ieithoedd eraill ar gais:

  • Ardal y Gorllewin: 03000 851709
  • Ardal y Canol: 03000 856047
  • Ardal y Dwyrain: 03000 847266

Gwybodaeth Gyffredinol

Mae gofyn cyfreithiol ar y Bwrdd Iechyd (BIPBC) i ddarparu bwyd sy’n ddiogel a maethlon i'r cleifion yn ein gofal. Mae hyn yn golygu bod rhaid i ni fod yn ofalus o ran sut mae bwyd yn cael ei wneud, ei drin a'i storio.

Rydym yn deall bod rhesymau da dros ddod â bwyd ychwanegol i mewn i'n hysbytai i gleifion o dro i dro.

Mae'r daflen hon yn rhoi gwybodaeth i gleifion a'u hymwelwyr ynglŷn â’r mathau o fwyd sy'n addas i’w cludo i ysbytai, ac yn egluro pam na chaniateir bwydydd eraill.

Mae'r prydau rydym yn eu gweini i gleifion bob dydd yn cael eu paratoi'n ofalus a chânt eu cynllunio i gynnig deiet iach, maethlon a chytbwys o fwydlenni dewisol penodol gydag amrywiaeth o fwydydd a diodydd poeth ac oer. Caiff cleifion eu hannog i ddewis bwyd maethlon a diogel a bydd cyngor priodol yn cael ei roi lle bo angen gan ddeietegwyr a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill.

Mae’n rhaid i ni sicrhau bod unrhyw fwyd sy’n dod i mewn i’n hysbytai yn addas. Mae hyn yn ein helpu i atal neu i leihau'r risg o haint, alergedd, gwenwyn bwyd a salwch sy'n cael ei gario mewn bwyd a rhyngweithiad anaddas gyda meddyginiaeth ar bresgripsiwn.

Beth allaf ddod i mewn gyda mi ar gyfer fy Mherthynas neu Ffrind?

  • Gallwch siarad gyda phrif nyrs y ward am y bwydydd sy’n addas i ddod i mewn
  • Dylai'r holl fwyd sy'n dod i mewn fod yn addas ar gyfer anghenion deietegol y claf
  • Helpwch ni i helpu cleifion trwy ddod ȃ bwyd sy’n cyfrannu at ddeiet cytbwys a maethon
  • Gall bwyd a diod fod yn rhan bwysig wrth roi ychydig o bleser i'r rhai yn yr ysbyty
  • Dylai’r holl ddeunydd pacio fod yn gyfan
  • Mae’n bwysig nad yw dyddiadau ‘Defnyddio Erbyn’ ac ‘Ar ei Orau’ wedi mynd heibio

Beth na allaf ddod ag ef ar gyfer fy mherthynas neu ffrind?

Unrhyw fwyd neu ddiod sydd angen ei storio yn yr oergell neu gypyrddau eraill os nad yw’r cyfan yn cael ei fwyta/yfed mewn un eisteddiad. Ni allwn storio'r eitemau hyn. Mae tabl isod yn rhoi.

Mae’r tabl isod yn rhoi mwy o wybodaeth i chi am y mathau o fwydydd y gallwch ac na allwch ddod â nhw gyda chi i mewn i’n hysbytai.

Prydau Cartref a Thecawȇs

Oherwydd ystyriaethau diogelwch bwyd ni chaniateir i ni ailgynhesu prydau wedi'u coginio gartref yn yr ysbyty.

Nid ydym yn annog dod ȃ thecawȇs i mewn i’r ysbyty oherwydd ni allwn sicrhau pa mor ddiogel ydynt.  

Os bydd eich ffrind neu berthynas yn cael unrhyw anawsterau wrth ddewis prydau addas o'r fwydlen, siaradwch gydag aelod o'r staff nyrsio.  Mae ein timau arlwyo yn gallu gweithio'n hyblyg er mwyn sicrhau ein bod yn bodloni'r holl anghenion dietegol arbennig.

Beth allaf ei fwyta wrth ymweld ȃ ffrind neu berthynas yn yr ysbyty? 

Rydym yn cydnabod bod adegau pan fydd ymwelwyr yn yr ysbyty am gyfnodau hir ac efallai'n dymuno dod â bwyd gyda nhw. Gofynnwn yn garedig nad yw unrhyw fwyd sy’n dod i mewn i’r ysbyty at y diben hwn yn cael ei rannu gyda chleifion oni bai ei fod yn bodloni'r canllawiau yn y daflen hon.

Gwybodaeth bellach

Os hoffech ragor o wybodaeth siaradwch gyda’r tîm nyrsio drwy gysylltu â’r switsfwrdd a gofyn am y ward berthnasol:

  • Bangor: 01248 384 384
  • Glan Clwyd: 01745 583910
  • Maelor Wrecsam: 01978 291100

E-bost: bcu.info@wales.nhs.uk