Neidio i'r prif gynnwy

Treial clinigol VICTOR

Mae’r treial hwn yn dreial hematoleg sy’n ein galluogi ni i gynnig mynediad posibl at drefn ddwys wedi’i haddasu i gleifion sydd â lewcemia myeloid acíwt y gallant eu gweinyddu eu hunain yn eu cartref eu hunain a fyddai, mewn gofal safonol, angen cemotherapi dwys brys dros fisoedd lawer fel claf mewnol yn yr ysbyty.

Yn ddiweddar, enillodd dîm Hematoleg Ysbyty Gwynedd y Wobr ar gyfer Rhaglen Rhagoriaeth Gwasanaeth Clinigol Myeloma UK, i gydnabod ei ofal rhagorol a'i ymroddiad i gleifion sydd â myeloma, ac mae Ysbyty Glan Clwyd wedi'i enwi'n ail yng Ngwobr Tîm Treial Lewcemia Myeloid Acíwt Cenedlaethol y Flwyddyn.