Neidio i'r prif gynnwy

Cyfleuster Ymchwil Clinigol Gogledd Cymru

Mae Cyfleuster Ymchwil Clinigol Gogledd Cymru (NWCRF) wedi’i leoli ar safle Ysbyty Maelor Wrecsam ac mae’n gwasanaethu poblogaeth Gogledd Cymru a thu hwnt. Mae NWCRF yn darparu amryw o astudiaethau, ond mae’n canolbwyntio ar astudiaethau masnachol cyfnod cynnar ac mae’n cynnwys gwaith gyda phractisau meddygon teulu, fferyllfeydd a phractisau deintyddol lleol.

Mae Cyfarwyddwr sefydlu NWCRF, Dr Orod Osanlou, sy’n feddyg ymgynghorol, wedi cefnogi’r ganolfan ymchwil i gynnal amryw o brosiectau ymchwil ar raddfa genedlaethol gan gynnwys treialon brechlyn COVID-19, astudiaethau atgyfnerthu ac ymchwil imiwnedd. Mae’r ganolfan hefyd yn cydweithio gyda sefydliadau ymchwil arweiniol megis Iechyd Cyhoeddus Cymru, prifysgolion, ac ymddiriedolaethau prifysgol y GIG.

Mae Dr Orod Osanlou wedi gwella cysylltiadau gydag Ysgol Feddygol Gogledd Cymru, Prifysgol Bangor a Prifysgol Wrecsam, ac mae'n Gyfarwyddwr cwrs gradd Meistr mewn Ymchwil mewn Ffarmacoleg Glinigol a Therapiwteg Arbrofol ym Mhrifysgol Bangor , er mwyn i feddygon ddysgu mwy am y defnydd clinigol o feddyginiaethau , a meddyginiaethau arbrofol a ddefnyddir mewn treialon cyffuriau. 

Mae NWCRF hefyd wedi croesawu myfyrwyr israddedig ar leoliad o Brifysgol Bangor. Mae NWCRF yn cefnogi ein cydweithwyr i gael mynediad at raglenni hyfforddi ffurfiol yn cylchdroi drwy’r cyfleuster, a chyllid ar gyfer yr MScRes, sydd wedi arwain at AaGIC yn cymeradwyo Hyfforddiant Arbenigol Uwch ST4 Ffarmacoleg Glinigol a Therapiwteg yng Ngogledd Cymru.

Sut i gymryd rhan

Mae gan NWCRF gronfa ddata ddiogel o wirfoddolwyr a chleifion sy’n fodlon i ni gysylltu â hwy am brosiectau ymchwil yn y dyfodol. Gelwir y gronfa ddata yn Consent 4 Consent (C4C) ac mae’n gronfa ddata fewnol ddiogel o gleifion a gwirfoddolwyr sy’n dymuno cael eu hystyried fel cyfranogwyr posibl ar gyfer prosiectau ymchwil. Ein gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ymchwil fydd yr unig bobl fydd â mynediad at y wybodaeth.

Os ydych yn ystyried ymuno â’r gronfa ddata C4C, cysylltwch â’r tîm ymchwil ar 03000 858032 neu gallwch e-bostio , a bydd aelod o’r tîm ymchwil yn trafod y gronfa ddata gyda chi’n fanylach ac yn rhoi’r cyfle i chi ofyn unrhyw gwestiynau.