Ym mis Ebrill 2023, daethom y safle cyntaf yng Nghymru i agor yr astudiaeth. Nod yr astudiaeth yw recriwtio 320,000 o ferched o 80 o ysbytai ar draws Cymru a Lloegr er mwyn ceisio lleihau nifer y babanod newydd-anedig sy’n datblygu heintiau Streptococws Grŵp B (GBS). Mae GBS yn cael ei gario gan tua 25% o ferched beichiog a gellir ei drosglwyddo o’r fam i’r babi yn ystod genedigaeth.
Rydym wedi cael ein dewis i gynnig prawf swab Pwynt Gofal cyflym ar gyfer merched sy’n cael eu derbyn i’r ysbyty yn ystod esgoriad cynnar neu ar gyfer ysgogi esgor. Mae’r canlyniadau ar gael o fewn 60 munud, a bydd merched sy’n cael canlyniad positif yn cael cynnig gwrthfiotigau yn ystod esgor, sy’n lleihau’r risg y bydd merched yn trosglwyddo GBS i’w babi. Y gobaith yw y bydd hyn hefyd yn lleihau nifer y babanod sy’n dod yn ddifrifol wael.