Ymchwil heddiw yw gofal yfory. Mae pobl sy’n cael gofal gan y GIG heddiw yn cael budd o ymchwil sydd eisoes wedi’i gynnal a byddant yn parhau i gael budd o ymchwil sy’n cael ei gynnal yn awr.
Mae gan aelodau o’r cyhoedd ran allweddol i’w chwarae. Gall ymchwil ateb cwestiynau, llenwi’r bylchau o ran gwybodaeth a newid y ffordd y mae meddygon a gweithwyr proffesiynol iechyd yn gofalu am eu cleifion.
Mae gennym ni ystod o wahanol fathau o ymchwil sydd angen cefnogaeth gan bobl yn ein cymunedau.
Mae llawer o ffyrdd gwahanol y gall pobl gymryd rhan mewn ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys:
Os ydych yn glaf gyda ni ar hyn o bryd, ac rydych yn dymuno cymryd rhan neu ddod i wybod a oes treial clinigol ar gael ar gyfer eich cyflyrau, rhowch wybod i’r clinigydd sy’n eich trin.
Os ydych yn glaf gyda ni, efallai y bydd meddyg ymgynghorol / ymarferydd gofal iechyd neu nyrs ymchwil / bydwraig yn cysylltu â chi i weld a hoffech gymryd rhan mewn treial clinigol. Mae cymryd rhan yn wirfoddol a gallwch newid eich meddwl ar unrhyw adeg.