Neidio i'r prif gynnwy

Swyddog Arweiniol Clinigol Dynodedig Addysg (SACDA)

Mae Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) yn egluro sut y mae'n rhaid i wasanaethau iechyd ac addysg weithio gyda'i gilydd i gefnogi dysgwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) o 0 i 25 mlwydd oed.

Sut gall y Swyddog Arweiniol Clinigol Dynodedig Addysg (SACDA) helpu? 

Mae'r Swyddog Arweiniol Clinigol Dynodedig Addysg (SACDA) yn cydgysylltu'r cydweithio yma ar gyfer y bwrdd iechyd.

  • Gall awdurdodau lleol gysylltu â gweithwyr iechyd proffesiynol y GIG i ofyn am wybodaeth neu gyngor a allai helpu dysgwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.
  • Gall awdurdodau lleol a sefydliadau addysg bellach (FEIs) hefyd holi a oes triniaeth neu wasanaeth a allai helpu dysgwr gyda'i anghenion dysgu ychwanegol.
  • Lle mae'r gwasanaeth iechyd yn credu bod gan blentyn anghenion dysgu ychwanegol neu lle bod hynny’n debygol, mae’n rhaid iddo ddweud wrth yr Awdurdod Lleol os gallai hyn helpu'r plentyn.

Sut i gysylltu â'r Swyddog Arweiniol Clinigol Dynodedig Addysg (SACDA)

Mrs Liz McKinney yw'r Swyddog Arweiniol Clinigol Dynodedig Addysg (SACDA).

Gall plant, pobl ifanc a'u teuluoedd gysylltu trwy alw 03000 846993, neu e-bostio BCU.DECLO@wales.nhs.uk

Dolenni ac adnoddau defnyddiol