Nid oes angen apwyntiad dilynol rheolaidd gan dîm yr ysbyty ar y mwyafrif o gleifion â chyflyrau hirdymor, neu'n dilyn triniaeth ysbyty. Dylai cleifion gyrchu ein gofal ar yr adeg fwyaf priodol pan fydd ei angen arnynt, yn hytrach nag yn unol ag amserlen arferol. Mae ymchwil wedi dangos nad yw cael apwyntiad dilynol rheolaidd fel claf allanol yn helpu i atal eich cyflwr rhag dychwelyd na nodi problemau newydd.
Mae Sylw i Symptom (SOS) ac Apwyntiad Dilynol ar Gais y Claf (PIFU) yn ddwy ffordd rydym yn darparu gofal i gleifion allanol. Mae'r gwasanaethau hyn yn grymuso cleifion i gymryd rheolaeth drwy roi'r dewis a'r hyblygrwydd iddynt pan fyddant yn cyrchu ein gofal.
Sylw i Symptom (SOS)
Dylid defnyddio'r gwasanaeth Sylw i Symptom (SOS) ar gyfer cyflyrau tymor-byr.
- Mae'r gwasanaeth hwn yn dibynnu ar gleifion i gyfeirio eu hunain os oes unrhyw broblemau gyda'u cyflwr o fewn amserlen y cytunwyd arni.
- Ar adeg y penderfyniad i roi’r claf ar y gwasanaeth Sylw i Symptom (SOS), dylai’r clinigydd bennu a chyfathrebu’n glir yr amserlen ar gyfer mynediad at SOS.
- Mae cyfyngiad amser ar y gwasanaeth hwn i dri, chwech, naw neu ddeuddeg mis. Unwaith y bydd yr amserlen y cytunwyd arni wedi mynd dod i ben, caiff y gwasanaeth SOS ei gau'n awtomatig ac nid oes angen cymryd unrhyw gamau pellach.
Apwyntiad Dilynol ar Gais y Claf (PIFU)
Dylid defnyddio Apwyntiad Dilynol ar Gais y Claf (PIFU) ar gyfer cyflyrau cronig hirdymor.
- Dylid defnyddio Apwyntiad Dilynol ar Gais y Claf (PIFU) ar gyfer achosion lle nad oes angen trefnu apwyntiad nesaf ar yr adeg honno gan fod y cyflwr yn cael ei reoli’n dda gan y claf.
- Mae'r claf a'r clinigwr yn cytuno y bydd y claf yn trefnu’r apwyntiad dilynol nesaf pan fo angen. Mae hyn yn seiliedig ar ddealltwriaeth y claf o’i gyflwr a phryd mae angen cymorth i gynnal ei iechyd a’i les.
- Bydd y claf yn parhau ar y rhestr Apwyntiad Dilynol ar Gais y Claf (PIFU) gan fod y gwasanaeth hwn yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cyflyrau cronig, hirdymor.
- Gall clinigwr gysylltu â'r claf i adolygu a sicrhau bod y cynlluniau gofal yn dal yn briodol.
Beth yw manteision Sylw i Symptom (SOS) ac Apwyntiad Dilynol ar Gais y Claf (PIFU)?
- Mae Sylw i Symptom (SOS) ac Apwyntiad Dilynol ar Gais y Claf (PIFU) yn rhoi mynediad uniongyrchol i gleifion at arweiniad arbenigol pan fydd ei angen arnynt fwyaf.
- Gall clinigwr roi cyngor dros y ffôn neu alwad fideo i osgoi’r angen am apwyntiad dilynol wyneb yn wyneb.
- Bydd cleifion yn arbed amser ac arian drwy beidio â theithio i safleoedd ysbytai oni bai bod angen.
- Bydd yn lleihau pryder cleifion sy'n gysylltiedig yn aml â mynychu apwyntiadau dilynol yn yr ysbyty.
- Bydd yn helpu cleifion sy'n cael trafferth ymdopi i gael eu gweld yn gynt gan eu clinigydd.
- Mae amseroedd rhestrau aros yn cael eu lleihau gan y bydd cleifion yn gweld clinigwyr pan fo angen, yn hytrach nag yn ôl amserlen arferol.
Beth i'w wneud os ydych yn bryderus?
Mae'r gwasanaethau hyn yn gyflym ac yn hawdd i'w defnyddio. Ffoniwch y rhif ar eich llythyr gwasanaeth Sylw i Symptom (SOS) neu Apwyntiad Dilynol ar Gais y Claf (PIFU) a byddwn yn cysylltu â chi unwaith y bydd penderfyniad wedi’i wneud ar y camau gorau i’w cymryd yn seiliedig ar eich symptomau. Defnyddiwch y gwasanaeth ar gyfer symptomau sy'n gysylltiedig â'r cyflwr yr ydych wedi derbyn triniaeth ar ei gyfer yn unig.
Cofiwch ei bod yn bwysig eich bod ar gael ar gyfer eich apwyntiad. Os byddwch yn canfod nad ydych ar gael ar yr amser a neilltuwyd ar gyfer apwyntiad, rhowch wybod i ni ymlaen llaw fel y gallwn geisio rhoi eich apwyntiad i rywun arall. Os na fyddwch yn dod i'ch apwyntiad heb ein hysbysu, mae'n debygol y cewch eich cyfeirio'n ôl at eich meddyg teulu.
Sylwch na all y gweithredwr sy'n cymryd eich galwad roi unrhyw gyngor clinigol.
Ar gyfer pryderon eraill neu os ydych yn teimlo'n sâl, mae gennym nifer o wasanaethau iechyd lleol gan gynnwys fferyllfeydd, Unedau Mân Anafiadau (MIUs), GIG 111 Cymru, gwasanaethau meddygon a deintyddol i'ch helpu i gael y cyngor a thriniaeth iawn.