Mae mwyafrif y rhai sy'n ymuno â Chofrestr Rhoddwyr Organau'r GIG yn dewis rhoi eu holl organau. Serch hynny, mae hi hefyd yn bosibl i chi roi eich meinwe.
Mae meinwe dynol yn cynnwys celloedd o fewn y corff sy'n edrych yn debyg i’w gilydd ac sydd â'r un swyddogaeth. Gall rhoi meinwe wella ansawdd bywyd unigolion eraill yn sylweddol. Gall cymaint â 50 o bobl gael eu helpu gan rodd gan un unigolyn.
Gellir rhoi llawer o fathau o feinwe ar ôl marwolaeth gan gynnwys croen, tendonau, asgwrn, falfiau calon a llygaid a fydd yn helpu i atgyweirio neu ailadeiladu bywydau miloedd o bobl sydd wedi'u hanafu'n ddifrifol. Mae hefyd yn bosibl rhoi asgwrn neu bilen amniotig (rhan o'r brych) mewn rhai ysbytai tra'ch bod yn fyw, yn ystod llawdriniaeth clun neu doriad Cesaraidd dewisol.
Yn wahanol i roi organau, nid oes angen i chi farw mewn uned gofal dwys ysbyty neu adran achosion brys i roi meinwe. Gellir ystyried bron unrhyw un ar gyfer rhoi meinwe ond, mae angen ei roi o fewn 24 - 48 awr i'r farwolaeth. Er mwyn sicrhau bod y meinwe a roddir yn ddiogel, mae hanes meddygol y rhoddwr a'i ffordd o fyw yn cael eu hasesu ar adeg y bydd y meinwe'n cael ei roi.
Dolen ddefnyddiol:
Gwefan Gwaed a Thrawsblaniadau'r GIG