Mae rhoi organau yn golygu rhoi rhan o'ch corff i rywun arall sydd ei angen. Mae'r weithred hael hon yn achub miloedd o fywydau yn y DU bob blwyddyn.
Gall unrhyw un gofrestru i roi organau a meinwe pan fyddant yn marw, waeth beth fo'u hoed neu gyflyrau meddygol. Er mwyn sicrhau bod yr organau a roddir yn ddiogel, mae hanes meddygol y rhoddwr a'i ffordd o fyw yn cael eu hasesu ar yr adeg y bydd yr organau'n cael eu rhoi.
Mae gan bawb ddewis p'run ai ydynt am roi organau ar ôl marw neu beidio. Os byddwch yn penderfynu rhoi'ch organau, gallwch ddewis eu rhoi i gyd neu rai yn unig. Gall hyn gynnwys eich calon, ysgyfaint, iau, arennau, pancreas a choluddyn bach.
Pan fyddwch yn cofrestru i roi eich organau, gallwch hefyd ddewis rhoi eich meinwe, gan gynnwys y cornbilennau ac asgwrn.