Neidio i'r prif gynnwy

Patholeg Gellog

Gall bywyd fod yn anodd ac yn straen yn dilyn marwolaeth rhywun annwyl. Mae llawer o bethau ymarferol y gallai fod angen eu gwneud mewn cyfnod byr. Mae'n rhaid i chi hefyd ymdopi â'r teimladau o golled a newid sy'n dod gyda galar.

Pwy ydyn ni

Mae Gwasanaethau Profedigaeth wedi'u lleoli yn y tri Ysbyty Cyffredinol Ardal Llym. Mae ein staff yma i gynnig gwybodaeth, cyngor a chymorth pellach.

Beth yw ein gwaith

Rydym yn cynnig cymorth a chyngor yn cynnwys:

  • Cysylltu â Chyfarwyddwr Angladdau
  • Gweld eich anwylyd yn yr ysbyty
  • Rhoi meinwe (tissue donation)
  • Casglu'r Dystysgrif Feddygol Marwolaeth
  • Cyfeirio at y Crwner
  • Cofrestru'r Farwolaeth

Gallwn hefyd gynnig cefnogaeth yn dilyn eich profedigaeth gyda gwybodaeth am alar a cholled.

Mae mwy o wybodaeth ar gael yn y mannau canlynol:

  • Y Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cleifion - Cysylltwch gyda’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cleifion (Patient Advice and Liaison Service (PALS))  Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (nhs.wales)
  • Llyfryn Profedigaeth Ysbyty Gwynedd (Ysbyty Gwynedd | RNS.uk)
  • Llyfryn Profedigaeth Ysbyty Glan Clwyd (Ysbyty Glan Clwyd | RNS.uk)
  • Llyfryn Profedigaeth Ysbyty Wrecsam Maelor (Ysbyty Maelor Wrecsam | RNS.uk)

Sut i gysylltu â ni

Mae ein Swyddfeydd Profedigaeth ar agor 10am - 4pm, Llun - Gwener (ac eithrio Gwyliau Banc)

Mae'r adran Cytoleg yn BIPBC yn delio'n bennaf â dadansoddi samplau hylif nad ydynt yn rai gynaecoleg, ac sy'n dod fel arfer o’r ysbytai. Bydd clinigwr perthnasol yn rhoi unrhyw gyfarwyddiadau arbennig eraill cyn cyflwyno sampl, os bydd angen.

Gellir cyflwyno samplau ym mhob un o'r 3 phrif safle ysbyty, a bydd systemau trafnidiaeth fewnol yn eu danfon i'r labordy priodol i'w prosesu.

Nod yr adran yw paratoi adroddiad ar gyfer o leiaf 85% o'r samplau hyn o fewn 7 diwrnod o’r dyddiad derbyn.

Prawf sgrinio serfigol

Mae'r profion sgrinio serfigol yn cynnwys cymryd sampl gan ferched iach, a chwilio am newidiadau cyn-ganseraidd yng nghelloedd ceg y groth, neu wddf y groth. Perfformir sgrinio ar fenywod rhwng 25 a 65 oed, bob 3-5 mlynedd yng Nghymru. Mae unrhyw abnormaleddau a ganfyddir yn cael eu dilyn i fyny neu eu trin er mwyn osgoi datblygiad canser ceg y groth wedi hynny. Gellir cymryd samplau mewn meddygfeydd neu glinigau cynllunio teulu / iechyd rhywiol yn y gymuned, a chlinigau gynaecoleg a cholposgopi yn yr ysbyty.

 

Gellir cyflwyno samplau serfigol ym mhob un o'r 3 prif safle ysbyty ar gyfer cludiant mewnol i gyfleuster labordy canolog Sgrinio Serfigol Cymru ym Mharc Magden, Llantrisant. Mae nifer fach o achosion yn cael eu hadrodd yn glinigol yn Ysbyty Glan Clwyd.

Mae'r adran histopatholeg yn gyfrifol am astudio’r meinwe dynol. Mae tîm o Ysgrifenyddion Labordy Meddygol, Cynorthwywyr Labordy Meddygol, Gwyddonwyr Biofeddygol cofrestredig a Phatholegwyr Ymgynghorol profiadol yn gweithio gyda'i gilydd er mwyn darparu’r gwasanaeth i boblogaeth Gogledd Cymru.

Derbynnir samplau yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor, ac Ysbyty Maelor Wrecsam, gyda'n labordy diagnostig wedi'i leoli'n ganolog yn Ysbyty Glan Clwyd, ym Modelwyddan.

Beth yw ein gwaith

Mae’r adran yn derbyn ystod o wahanol samplau, o fiopsïau bach i echdoriadau organau mwy, er mwyn archwilio meinweoedd a chelloedd o dan ficrosgop, ac er mwyn helpu clinigwyr i reoli gofal cleifion.

Mae darnau bach o feinwe yn cael eu prosesu gan ddefnyddio cemegau amrywiol i gynhyrchu bloc cwyr paraffin. Yna caiff rhannau tenau eu torri o'r bloc a'u staenio i ddangos manylion niwclear a cytoplasmig y celloedd, sy'n galluogi'r Patholegydd i ddarparu dehongliad clinigol o'r sampl pan edrychir ar y sleid trwy’r microsgop.

Rydym hefyd yn cyflwyno ystod o brofion ychwanegol sydd, nid yn unig yn helpu i adnabod diagnosis, ond hefyd yn darparu gwybodaeth bwysig am yr opsiynau triniaeth gorau i gleifion unigol.

Pa mor hir mae'n ei gymryd?

Mae'r broses hon yn cymryd llawer mwy o amser na phrawf gwaed, fel arfer gall achosion arferol gymryd rhwng 10 a 14 wythnos yn dibynnu ar y sbesimen unigol.

Efallai y bydd angen profion ychwanegol ar achosion mwy cymhleth neu anarferol, ac efallai y bydd angen barn arbenigol o ysbyty arall ar rai achosion, felly gall gymryd sawl wythnos arall i'r adroddiad terfynol gael ei baratoi. Mae achosion brys yn cael eu cyflymu trwy'r labordy yn gyflymach o lawer na hyn, fel arfer o fewn 2 wythnos.

Unrhyw gwestiynau?

Dylai unrhyw gwestiynau am eich profion histopatholeg gael eu cyfeirio at eich meddyg teulu neu eich clinigwr.