Mae’r gwasanaeth llawfeddygol cyffredinol yn trin cleifion â phroblemau brys. Mae’r cyflyrau brys sy’n cael eu trin gan y gwasanaeth llawfeddygol cyffredinol yn amrywio o boen amhenodol yn yr abdomen a chasgliad i gyflyrau sy’n peryglu bywyd fel gwaedu difrifol yn yr abdomen a dueg sydd wedi rhwygo.
Ar hyn o bryd rydym yn blaenoriaethu ein cleifion mwyaf brys, megis y rhai sydd wedi cael diagnosis o ganser wedi’i gadarnhau, ar draws y tri safle oherwydd prinder gwelyau a gofynion cadw pellter cymdeithasol.
Rydym yn parhau i adolygu a thrin cleifion â'r anghenion clinigol mwyaf. Mae'r rhain yn cynnwys cleifion yr amheuir neu y cadarnhawyd bod canser arnynt neu ar lwybr canser sy'n bodoli eisoes. Rydym yn cynnal apwyntiadau wyneb yn wyneb ar gyfer y cleifion hynny sydd wedi’u hystyried fel y rhai â’r achosion clinigol mwyaf brys.
Mae asesiadau risg wedi'u cynnal i adolygu'r amgylchedd cleifion allanol er mwyn gallu cynyddu nifer y cleifion y gellir eu trin yn ddiogel mewn lleoliad wyneb yn wyneb. Yn amodol ar unrhyw newidiadau yn y gofynion pellhau cymdeithasol sy’n gysylltiedig â COVID-19 byddem yn gallu cynyddu nifer y cleifion i gynnwys apwyntiadau arferol yn seiliedig ar hyd arhosiad cleifion. Mae apwyntiadau rhithwir yn parhau ar hyn o bryd ar gyfer apwyntiadau priodol er mwyn lleihau nifer yr ymwelwyr â'r ysbytai.
Byddwn yn parhau i drefnu apwyntiadau cleifion yn ôl y brys a hyd yr arhosiad