Neidio i'r prif gynnwy

You Said, We Did:

Fe wnaethom ni ymgysylltu â phlant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal er mwyn iddynt ddweud wrthym ni beth allem ni ei wneud yn well i'w cefnogi o fewn gwasanaethau iechyd.

FE DDYWEDOCH CHI: Fe ddywedodd plant a phobl ifanc wrthym ni y byddai’n well pe bai mwy o gyfathrebu rhwng yr ysgol, gweithwyr cymdeithasol a nyrsys.

FE WNAETHOM NI: Rydym ni’n mynychu cyfarfodydd adolygu, neu’n darparu adroddiadau, yn ystod mis cyntaf lleoliad plentyn ac yna bob 3 mis nes bod y plentyn neu'r unigolyn ifanc wedi setlo. Ar ôl hyn, rydym ni’n gweld y teulu/gofalydd maeth/plentyn neu'r unigolyn ifanc, yr ysgol a'r gweithiwr cymdeithasol i drafod cynnydd bob 6 mis.

FE DDYWEDOCH CHI: Fe ddywedodd plant a phobl ifanc wrthym ni nad oeddent yn awyddus i gael apwyntiadau yn ystod amser ysgol ac nad oeddent am weld eu nyrs na'u gweithiwr cymdeithasol yn yr ysgol.

FE WNAETHOM NI: Rydym ni eisiau sicrhau bod plant a phobl ifanc yn gallu dewis lle maent yn ein gweld a’n bod ond cynnig apwyntiadau yn yr ysgol os yw'r plentyn neu'r unigolyn ifanc yn gofyn am gael ei weld yn yr ysgol.

Rydym ni’n cynnig holiadur profiad gwasanaeth i deuluoedd, a bob mis rydym ni’n edrych ar yr adborth y mae plant, pobl ifanc a theuluoedd yn ei ddweud wrthym ni am y gwasanaethau maent yn eu derbyn.

FE DDYWEDOCH CHI: Fe ddywedoch chi wrthym ni fod ein hystafelloedd clinig a’n hystafelloedd aros yn ddiflas ac y gallent wneud gyda mwy o liw. Yn ogystal, fe ddywedoch chi wrthym ni nad oeddent yn teimlo fel lleoliadau cyfforddus.

FE WNAETHOM NI: Fe aethom ni’r filltir ychwanegol gan weithio gydag Awyr Las (elusen Gogledd Cymru) i godi arian i wella’r lleoliadau. Mae ein cymunedau’n anhygoel, ac fe wnaethom ni godi mwy na £5,400 a fydd yn cael ei ddefnyddio i wella’r ystafelloedd.

Mae ein tudalennau gwe yn gwella.

FE DDYWEDOCH CHI: Fe ddywedoch chi wrthym ni fod angen i'n tudalennau gwe fod yn well a chynnwys mwy o liw, fideos, delweddau a gwybodaeth y gallech chi ei deall.

FE WNAETHOM NI: Rydym ni wedi gwneud llawer o waith ar y tudalennau gwe ac wedi croesi llawer o bethau yr ydych chi wedi gofyn amdanynt oddi ar y rhestr. Bellach, rydym ni’n gweithio i ychwanegu hyd yn oed mwy, a byddwn ni’n datblygu fideo croeso ochr yn ochr â phobl ifanc yn Ysgol y Gogarth.