Mae anymataliad neu golli rheolaeth ar y bledren neu goluddyn yn broblem gyffredin iawn sy’n peri gofid a chywilydd. Ond, pan fydd yr achos wedi cael ei ddarganfod, yn aml iawn gellir ei drin yn hawdd gyda’r cyngor ac ymyriad cywir.
Rydym yn dîm o nyrsys cofrestredig (Cynghorwyr/Nyrsys Ymataliad) yn gweithio yng Ngogledd Cymru. Mae Cynghorwyr/Nyrsys Ymataliad wedi cael hyfforddiant arbenigol mewn rheoli ymataliad.
Mae’r Gwasanaeth Cynghori ar Ymataliad yn cynnig cyngor, asesiad, triniaeth a rheoli problemau’r bledren a’r coluddyn gyda’r nod o wella symptomau yn llwyr neu’n rhannol.
Rydym yn gweithio ag oedolion dros 16 oed. I gael cyngor ynglŷn â phlant, holwch eich ymwelydd iechyd neu nyrs ysgol.
Gallwch gael eich cyfeirio am asesiad gan eich Meddyg Teulu neu unrhyw weithiwr iechyd proffesiynol arall rydych yn cael gofal ganddo. Cewch gynnig apwyntiad yn eich ysbyty neu ganolfan iechyd leol. Byddwn yn cynnig ymweld â chartrefi’r rhai sy’n gaeth i’r cartref.
Rydym yn cynnig cyngor a hyfforddiant arbenigol i’n cydweithwyr yn y GIG a’r rhai yn y sector annibynnol.
Dylai cleifion ardal Conwy a Sir Ddinbych gysylltu â: 03000 855981.
Dylai cleifion ardal Wrecsam a Sir y Fflint gysylltu â: 03000 847755.
Dylai cleifion ardal Gwynedd (Gorllewin) gysylltu â: 03000 851583
Mae’r gwasanaeth ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, 8.30am – 4.30pm