Pan fyddwn mewn poen, rydym yn aml yn osgoi gweithgareddau neu symudiadau penodol. Yn y tymor hir, gall hyn arwain at ein cyhyrau yn gwanhau a'n cymalau yn mynd yn anystwyth sydd - yn y tymor hir yn cynyddu ein poen. Gallwn osgoi gwneud pethau yr ydym yn eu mwynhau effeithio ar ein hwyliau hefyd. Gallwn hefyd ganfod ein hunain yn y cylch Ffyniant a methiant.
Sut gallwn ni reoli ein gweithgareddau mewn ffordd well?
- Ymarfer corff ysgafn cyson neu symud o fewn yr hyn sy’n gyfforddus
- Symud mewn modd rheoledig gan gadw ein cyhyrau mor llac â phosibl
- Byddwch yn ymwybodol o ddal eich anadl; ceisiwch anadlu tra'n gwneud gweithgaredd
- Rheolwch eich gweithgaredd, rhannwch y dasg i ddarnau hylaw llai.
- Cymerwch egwyliau cyson
- Dewch o hyd i gydbwysedd rhwng gweithgarwch a gorffwys
- Dros amser, yn araf cynyddwch pa mor anodd yw'r gweithgaredd
- Ceisiwch wneud gweithgaredd yn bleserus neu'n werth chweil
- Cynlluniwch weithgaredd, eich diwrnod, eich wythnos
- Gosodwch gyfyngiadau i chi eich hun ar gyfer gweithgareddau y gwyddoch fydd yn tanio eich poen
- Gosodwch nodau realistig i chi eich hun