Cefnogi pobl â COVID Hir, ME (Enseffalomyelitis Myalgig) / Syndrom Blinder Cronig a chyflyrau ôl-heintiol eraill
Gellir cael cymorth ar gyfer COVID hir, cyflyrau ôl-feirysol eraill ac ME/Syndrom Blinder Cronig trwy un pwynt mynediad erbyn hyn. Gall cleifion hunangyfeirio drwy ddefnyddio'r ddolen isod, neu drwy ofyn i'w gweithiwyr proffesiynol gofal iechyd wneud cyfeiriad ar eu rhan. Os ydych chi am hunangyfeirio ac angen cymorth i wneud hynny, cysylltwch â'r Gwasanaeth Byw'n Dda ar 03000 840007. Bydd pob claf sydd yn cael ei dderbyn gan y gwasanaeth yn cael cynnig asesiad cychwynnol cyfannol.
Mae'r Gwasanaeth COVID Hir wedi ehangu’r hyn mae’n ei gynnig er mwyn cefnogi pobl eraill ag anghenion tebyg, e.e. y rhai sydd â symptomau sy'n deillio o feirws neu haint. Gwasanaeth Byw'n Dda yw enw’r gwasanaeth bellach, a hynny er mwyn adlewyrchu’r ystod cyflyrau clinigol y mae’n darparu ar eu cyfer yn ogystal â'r dull cyfannol o reoli rydym yn ei gynnig. Fel rhan o'r datblygiad hwn, rydym yn gweithio'n agos gyda'r gwasanaeth ME/Syndrom Blinder Cronig i sicrhau y gall pobl ag ME/Syndrom Blinder Cronig gael mynediad at yr ystod ehangach o gymorth a’r gweithwyr proffesiynol gofal iechyd sydd ar gael drwy’r Gwasanaeth Byw'n Dda, e.e. asesiad clinigol ac unrhyw ddiagnosteg sydd ei angen, cymorth amlddisgyblaethol yn ogystal â chadw’r cymorth pwrpasol i bobl ag ME/Syndrom Blinder Cronig a gynigir gan y gwasanaethau ME/CFS Syndrom Blinder Cronig.
Amcangyfrifir bod hyd at filiwn o bobl yn y DU bellach yn byw gyda ME/Syndrom Blinder Cronig. Mae ME/Syndrom Blinder Cronig yn gyflwr niwrolegol a chymhleth sy'n effeithio ar nifer o systemau’r corff. Mae meini prawf diagnostig ar gyfer ME/Syndrom Blinder Cronig yn nodi ystod o symptomau gan gynnwys amhariadau gwybyddol, anoddefedd orthostatig, poen, lludded, anhawster cysgu a mwy. Nodwedd amlwg y salwch yw anghysur ôl-ymdrech, sef ymateb annormal i ymdrech gorfforol, gwybyddol, gymdeithasol a/neu emosiynol sy'n arwain at symptomau pellach neu at waethygu symptomau sydd eisoes yn bodoli. Mae 80% o achosion ME/Syndrom Blinder Cronig yn digwydd yn dilyn haint gan gynnwys COVID-19.
Yn yr un modd, mae COVID hir hefyd yn gyflwr cymhleth, aml-system, ac fe'i diffinnir fel cyflwr lle mae symptomau’n parhau neu’n dechrau 12 wythnos ar ôl haint COVID-19 acíwt. Mae nifer o symptomau posibl, ac mae'r rhan fwyaf ohonyn nhw yn debyg i symptomau ME/Syndrom Blinder Cronig. Mae'n bwysig nodi nad yw pawb â COVID hir yn bodloni’r meini prawf ar gyfer ME/Syndrom Blinder Cronig, ond amcangyfrifir bod canran y rhai â COVID hir sydd hefyd yn bodloni’r meini prawf ar gyfer ME/Syndrom Blinder Cronig hyd at 58%.
Mae COVID Hir yn gyflwr ôl-feirysol, a gallai unrhyw haint firaol arwain at symptomau tebyg. Nid oes prawf gwaed na sgan ar gael i gadarnhau’r diagnosis o ME/Syndrom Blinder Cronig neu gyflyrau ôl-feirysol eraill, ac felly gwneir diagnosis drwy edrych ar hanes clinigol a thrwy eithrio achosion posibl eraill. Mae'n bosibl cael un o'r cyflyrau hyn ynghyd â chyflyrau iechyd eraill, a bydd y broses asesu yn helpu i sefydlu os gall cyflwr sy'n bodoli eisoes neu sy'n bodoli ar yr un pryd egluro'r symptomau'n ddigonol, neu a yw cyflyrau ôl-feirysol a/neu ME/Syndrom Blinder Cronig yn debygol.
Mae arwyddion a symptomau syndrom ôl-COVID-19 (a elwir hefyd yn COVID Hir) yn datblygu yn ystod neu ar ôl haint sy'n ymdebygu i’r firws ac yn parhau am fwy na deuddeg wythnos a lle na cheir esboniad o’r symptomau gan unrhyw ddiagnosis arall. Fel arfer mae clystyrau o symptomau gan y cyflwr ac yn aml mae’r rhain yn gorgyffwrdd, ac yn gallu newid dros amser. Gallan nhw effeithio ar unrhyw system o fewn y corff.
Symptomau posibl - nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr: symptomau cardiofasgwlaidd, resbiradol, gastroberfeddol, niwrolegol, cyhyrysgerbydol, metabolaidd, arennol, dermatolegol, otolaryngolegol, hematolegol a systemau awtonomig yn ogystal â phroblemau seiciatrig, poen cyffredinol, lludded a thwymyn barhaus. Darparwyd y wybodaeth gan NICE, SIGN a RCGP
SYLWER: Ar hyn o bryd rydym yn diweddaru ein gwefan gyda’r wybodaeth ddiweddaraf sydd yn berthnasol ac yn ddefnyddiol, ar gyfer pobl â COVID hir ac ME/ Syndrom Blinder Cronig. Gofynnwn i chi fod yn amyneddgar wrth i ni wneud y newidiadau hyn. Yn y cyfamser, os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â ni.