Mae'r Gwasanaeth Anhwylder Symud yn cynnig asesiadau arbenigol a rheolaeth barhaus i bobl sy'n byw gyda Chlefyd Parkinson Idiopathig yn ogystal â mathau eraill o glefydau Parkinson.
Mae Clefyd Parkinson yn gyflwr niwrolegol graddol sy'n effeithio ar yr ymennydd. Fe'i hachosir gan ostyngiad yn y cemegyn a elwir dopamin. Mae dopamin yn helpu'ch corff i symud yn iawn. Heb lefel ddigonol o dopamin efallai y byddwch chi'n profi problemau, yn cynnwys:
Gall y Tîm Anhwylder Symud eich helpu i reoli'r symptomau hyn. Yn aml, cyflawnir hyn trwy sicrhau eich bod yn cael presgripsiwn meddyginiaeth briodol. Gallwn hefyd gyfeirio at wasanaethau cymorth lleol gan gynnwys fferyllfa, ffisiotherapi, therapi iaith a lleferydd, therapi galwedigaethol a dieteteg.
Ar ôl cael diagnosis o Glefyd Parkinson Idiopathig neu fath arall o glefyd Parkinson, byddwch yn cael eich gwahodd i fynychu'r Gwasanaeth Anhwylder Symud i fonitro'ch cyflwr a helpu i reoli'ch symptomau. Mae'r Gwasanaeth Anhwylder Symud yn cynnal clinigau yn:
Ynys Môn a Gwynedd
Conwy a Sir Ddinbych
Sir y Fflint a Wrecsam
Cefnogir y Gwasanaeth Anhwylder Symud gan dîm o Nyrsys Arbenigol Clefyd Parkinson: